Geg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 6:
==Hanes==
Cyn yr [[Ail Ryfel Byd]], nid oedd ymgais swyddogol llawn ar ddeddfu iaith lenyddol unedig Albaniaidd. Defnyddiwyd Geg llenyddol a Tosc llenyddol, er bod y Brenin Zog yn arddel ei dafodiaith frodorol ardal Mat, i'r gogledd o'r afon Shkumbin. Roedd tafodiaith Geg ardal [[Elbasan]] yn agos i'r ffin Tosc/Geg border ac felly yn fan canol o ran contiwm tafodieithyddol yn opsiwn fel sail iaith lenyddol unedig
[[File:Albanian-dialects.svg|thumb|400px|right|Dosbarthiad tafodieithoedd yr iaith Albaneg]]
Gosododd gyfundrefn [[g|comiwnyddol]] [[Enver Hoxha]] yn Albania safon unedig ar iaith y wladwriaeth a oedd yn seiliedig ar dafodiaeth Tosc, ardal [[Korçë]], dinas yn ne ddwyrain y wlad. Yn 1968, mabwysiadwyd yr un safon gan yr Albaniaid yn Iwgoslafia, a oedd wedi defnyddio'r safon Geg tan hynny. Datblygwyd y broses o safoni iaith swyddogol yma gyda phenderfyniad yn 1972 pan gytunwyd ar y llawlyfr orthraffig a'r geiriadur gyntaf yr Albaneg safonol
Roedd yr unben Comiwnyddol, Enver Hoxha yn dod o ddinas [[Gjirokastër]] ac felly yn siarad y dafodiaeth Tosc. Yn ôl Dr Nick Nicholas mewn ateb arlein [https://www.quora.com/Why-is-standard-Albanian-language-based-on-the-Tosk-dialect-and-not-the-Gheg-dialect| pam ddewiswyd Tosc fel sail iaith safonol Albaneg] dewiswyd Tosc am yr union reswm hynny ac, erbyn marwolaeth Hoxha yn 1985 ac yna, cwymp Comiwnyddiaeth yn 1991, roedd y ffurf safonol newydd wedi gwreiddio ers cenhedlaeth.
|