Io (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Roedd Hera yn ddrwgdybio bwriadau ei ŵr Zeus, ac anfonodd [[Argus]] ''Panoptes'' i'w gwarchod, ond anfonodd Zeus [[Hermes]] ([[Mercher]]) i dynnu sylw Argus a'i ladd. Mae'r mwyafrif o'r fersiynau o'r chwedl yn dweud mai [[Inachus]], duw afon y dywedir ei fod wedi cyflwyno cwlt Hera i ranbarth Argos, oedd tad Io.
 
Yn ei chenfigen, rhoddodd Hera y bai i gyd ar y ferch. Anfonodd pla o bryfed i'w poenydio. I geisio cael gwared ohonynt crwydrodd Io, yn rhith buwch o hyd, ar draws y byd nes cyraeddcyrraedd [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]]. Yn ôl [[HerododotusHerodotus]], cafodd Io ei chipio gan forwyr [[Ffenicia]]idd a'i dwyn ganddynt i'r Aifft. Cafodd Zeus hyd iddi ar lan [[Afon Nîl]]. Newidiodd Zeus hi yn ferch eto a rhoddodd enedigaeth i fab, Epaphus. Dywedir ei fod wedi priodi brenin yr Aifft neu [[Osiris]]: chwedl sy'n ceisio esbonio'r uniaethiad rhwng Io a'r dduwies [[Isis]] yn yr Aifft.
 
Enwir y lloeren [[Io (lloeren)|Io]], un o loerennau'r blaned [[Iau (planed)|Iau]], ar ôl yr Io chwedlonol.