Abd El-Kader: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B trwsio dolen
Llinell 4:
Ar ôl goresgyniad dinas [[Alger]] (Algiers) gan luoedd Ffrainc, etholwyd Abd El-Kader yn [[emir]] i'w harwain gan lwythau Berber ardal [[Oran]], yng ngogledd-orllewin Algeria. Gyda dyfalbarhad a dawn filwrol anghyffredin, arweiniodd yr Algeriaid mewn rhyfel herfilwrol hir yn erbyn byddin Ffrainc, a barhaodd o 1832 hyd 1847. Yn 1834 gorfododd y Cadfridog Ffrengig Desmichels i arwyddo cytundeb yn ei gydnabod fel arweinydd ac ym Mehefin 1835, enillodd fuddugoliaeth fawr ar y fyddin Ffrengig ym mrwydr [[Makta]].
 
Ond tyfodd nerth y Ffrancod yn Algeria a bu rhaid i Abd El-Kader ffoi i'r gorllewin a chael noddfa ym [[Moroco]]. Oddi yno dechreuodd ymladd rhyfel [[jihad]] yn erbyn y Ffrancod yn enw [[Islam]]. Ildiodd i'r Ffrancod yn 1847 a chafodd ei anfon i Ffrainc lle y'i dalwyd fel carcharor hyd 1852 pan gafodd ei ryddhau ar orchymyn yr ymerodr newydd, [[Napoleon III, ymerawdwr Ffrainc|Louis Napoleon]]. Cafodd ei alltudio i [[Brusa]] ([[Twrci]]) ac oddi yno symudodd i ddinas [[Damascus]] yn [[Syria]] lle bu farw yn 1883.
 
Fel llenor ac athronydd, fe'i cofir yn bennaf am ei [[hunangofiant]] [[cyfriniaeth|cyfriniol]] y ''Qitab al-Mawaqif'' ('Llyfr yr Arosfeydd').