Trefedigaeth y Goron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tiriogaeth dramor Brydeinig a reolir yn uniongyrchol gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, trwy awdurdod y Goron, yw '''tr...'
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
Tiriogaeth dramor Brydeinig a reolir yn uniongyrchol gan [[llywodraeth y Deyrnas Unedig|lywodraeth y Deyrnas Unedig]], trwy awdurdod [[Y Goron Brydeinig|y Goron]], yw '''trefedigaeth y Goron'''. Y fath hon o diriogaeth oedd yn nodwedd o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] o ddechrau'r 19g hyd ddiwedd yr 20g. Nid oedd gan drefedigaethau'r Goron gynrychiolwyr yn [[Senedd y Deyrnas Unedig]]. Rheolai trefedigaeth y Goron gan lywodraethwr a benodir gan y Goron ac yn atebol i Lundain ([[Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad]], ers 1966).<ref name=Wenzlhuemer>Roland Wenzlhuemer, "Crown Colony" yn Thomas Benjamin (gol.), ''Encyclopedia of Western Colonialism since 1450'', cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007), t. 288.</ref>
 
Meddai'r llywodraethwr ar faint sylweddol o rym ac awdurdod, a chafodd ei gynorthwyo yn y blynyddoedd cynnar gan gyngor penodedig. Yn y 1820au a'r 1830au, cafodd y system ei diwygio mewn sawl tiriogaeth gan gyflwyno cynghorau deddfwriaethol ac gweithredol i gynorthwyo'r llywodraethwr. Gan amlaf, cafodd aelodau'r cynghorau eu penodi gan y llywodraethwr ei hunan. Yn ddiweddarach yn oes yr Ymerodraeth Brydeinig, daeth ambell drefedigaeth y Goron i ddefnyddio cynghorau etholedig.