Tŷ haf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro iaith mewn erthygl dda
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae nifer o fusnesau wedi datblygu [[gwefan|gwefannau]] lle y gall perchnogion tai haf hysbysebu eu heiddo a gall y cwsmeriaid chwilio am dŷ i'w rentu am gyfnod byr. Mae dyfodiad y we wedi achosi i dai haf gystadlu gyda [[gwesty|gwestai]] ar raddfa llawer mwy nag yn y gorffennol. I'w gymharu â gwestai a [[gwely a brecwast]], gall rhentu tŷ (gyda'r chyfleusterau arlwyo) arbed llawer o arian i deuluoedd neu grwpiau o bobl sy'n mynd ar wyliau gyda'i gilydd.
 
Nid yw pob tŷ haf yn eiddo a ddefnyddir er mwyn elw yn unig; fe'i defnyddir yn aml fel [[ail gartref]] ar gyfer teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd dinesig. Gall y teuluoedd hyn ei rentu i ymwelwyr eraill pan nad ydynt yn ei ddefnyddio eu hunain, er mwyn talu'r morgais ar yr ail gartref, neu rannu'r gost gyda ffrindiau drwy [[rhanberchnogaeth|ranberchnogaeth]].
 
Mae llawer o berchnogion tai haf yn ymweld a'u hail gartref ar y penwythnos, gan ddychwelyd i'w prif gartref yn ystod yr wythnos. Mae rhaglenni teledu megis ''Relocation, Relocation'' yn enghraifft o boblogrwydd y syniad o fod yn berchen ar ddau gartref ac mae'r defnydd o dai fel buddsoddiad wedi achosi i'r diffiniad o'r gwahaniaeth rhwng tŷ haf ac ail gartref ddod yn aneglur.