Edmund Hyde Hall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Hynafiaethydd ac awdur ''A Description of Caernarvonshire'', gwaith topograffyddol pwysig ar yr hen Sir Gaernarfon, oedd '''Edmund Hyde Hall''' (ganed tua 1770? - [[17 Hydref…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:48, 20 Chwefror 2009

Hynafiaethydd ac awdur A Description of Caernarvonshire, gwaith topograffyddol pwysig ar yr hen Sir Gaernarfon, oedd Edmund Hyde Hall (ganed tua 1770? - 17 Hydref 1824).

Ei fywyd

Ychydig a wyddys am ei fywyd yn gyffredinol. Ganed yr awdur ym mhlwyf Trelawney, Jamaica, yn dryddd fab i Cossley Hall, gŵr Florence Hall o Hyde Hall yn y plwyf hwnnw, gan ei wraig gyntaf Whitehorne-Lade. Teulu o dras Seisnig yn bennaf oedd y teulu Hall, ond roedd yn cynnwys cysylltiad â Sir Benfro ar ochr y tad.

Ymddengys fod y cysylltiad Cymreig hwnnw wedi ennyn chwilfrydedd Edmund Hyde Hall at Gymru. Teithiodd o Jamaica i Loegr yn llanc ac ymddengys ei fod wedi treulio cyfnod yn ysgol Harrow. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yn Llandygai, ger Bangor, y dechreuodd ar ei waith topograffyddol mawr A Description of Caernarvonshire. Mae hynny - a'r ffaith ei fod yn mynd i gryn drafferth i sgwennu achau'r teulu - yn awgrymu fod ganddo gysylltiad o ryw fath â theulu'r Penrhyn, ond ni wyddom fwy na hynny. Roedd gan deulu'r Penrhyn diroedd eang yn Jamaica hefyd, sy'n ategu'r posiblrwydd o gysylltiad rhyngddynt a theulu Hyde Hall.

Ymddengys iddo ddychwelyd yn 1809 ac ymsefydlu dros dro yn ninas Bangor. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn teithio o gwmpas Sir Gaernarfon yn hel deunydd at ei lyfr. Dangos tri o'r llythyrau a ysgrifennodd o Fangor ei fod yn adnabod yr hynafiaethydd Paul Panton o Fôn.

Mae yna fwlch llwyr yn ein gwybodaeth am yr awdur ar ôl ei gyfnod yng Nghymru. Cafodd danysgrifiadau i'r llyfr arfaethedig, yn cynnwys Paul Panton, ond methiant fu'r brosiect. Ymddengys fod yr awdur wedi syrthio ar amser caled. Bu farw yn ddibriod ac unig yn Nulyn ar yr 17eg o Hydref 1824.

Ei Ddisgrifiad o Sir Gaernarfon

Er na chyhoeddwyd gwaith Hyde Hall tan 1952, dros 140 o flynyddoedd ar ôl ei orffen, ysytyrir A Description of Caernarvonshire yn gampwaith o'i fath sy'n ffynhonnell werthfawr i'r hanesydd. Ceir ynddo ddarlun uchelgeisiol o bob agwedd ar yr hen sir; ei hanes, ei thirlun ei heconomi ayyb, ynghyd â disgrifiad manwl o bob plwyf sy'n cynnwys mapiau gwrthfawr. Doedd yr awdur ddim yn gyfoethog ac ymwelodd â'r rhan fwyaf o'r lleoedd ar droed, gan drampio trwy'r sir. Mae'r gwaith yn arbennig o bwysig am ardaloedd Arllechwedd ac Arfon, heb fod nepell o Fangor. Ymfalchiai'r awdur yn ei dras Cymreig ond ni fedrai'r iaith; roedd hyn yn embaras iddo ond llwyddodd er hynny i ennill cyfeillgarwch nifer o bobl leol.

Cyhoeddwyd ei opus magnum, chwedl yntau, yn 1952 gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.

Ffynhonnell

  • Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811) (Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon, 1952). Rhagymadrodd gan E. Gwynne Jones.