Edmund Hyde Hall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 2:
 
==Ei fywyd==
Ychydig a wyddys am ei fywyd yn gyffredinol. Ganed yr awdur ym mhlwyf [[TrelawneyTrelawny, Jamaica|TrelawneyTrelawny]], [[Jamaica]], yn dryddddrydydd fab i Cossley Hall, gŵr Florence Hall o Hyde Hall yn y plwyf hwnnw, gan ei wraig gyntaf Whitehorne-Lade. Teulu o dras Seisnig yn bennaf oedd y teulu Hall, ond roedd yn cynnwys cysylltiad â [[Sir Benfro]] ar ochr y tad.
 
Ymddengys fod y cysylltiad Cymreig hwnnw wedi ennyn chwilfrydedd Edmund Hyde Hall at [[Cymru|Gymru]]. Teithiodd o Jamaica i [[Lloegr|Loegr]] yn llanc ac ymddengys ei fod wedi treulio cyfnod yn ysgol [[Harrow]]. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yn [[Llandygai]], ger [[Bangor]], y dechreuodd ar ei waith topograffyddol mawr ''A Description of Caernarvonshire''. Mae hynny - a'r ffaith ei fod yn mynd i gryn drafferth i sgwennu achau'r teulu - yn awgrymu fod ganddo gysylltiad o ryw fath â theulu'r [[Castell Penrhyn|Penrhyn]], ond ni wyddom fwy na hynny. Roedd gan deulu'r Penrhyn diroedd eang yn Jamaica hefyd, sy'n ategu'r posiblrwydd o gysylltiad rhyngddynt a theulu Hyde Hall.