Edmund Hyde Hall: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 6:
Ymddengys fod y cysylltiad Cymreig hwnnw wedi ennyn chwilfrydedd Edmund Hyde Hall at [[Cymru|Gymru]]. Teithiodd o Jamaica i [[Lloegr|Loegr]] yn llanc ac ymddengys ei fod wedi treulio cyfnod yn ysgol [[Harrow]]. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yn [[Llandygai]], ger [[Bangor]], y dechreuodd ar ei waith topograffyddol mawr ''A Description of Caernarvonshire''. Mae hynny - a'r ffaith ei fod yn mynd i gryn drafferth i sgwennu achau'r teulu - yn awgrymu fod ganddo gysylltiad o ryw fath â theulu'r [[Castell Penrhyn|Penrhyn]], ond ni wyddom fwy na hynny. Roedd gan deulu'r Penrhyn diroedd eang yn Jamaica hefyd, sy'n ategu'r posiblrwydd o gysylltiad rhyngddynt a theulu Hyde Hall.
 
Ymddengys iddo ddychwelyd yn 1809 ac ymsefydlu dros dro yn ninas Bangor. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn teithio o gwmpas Sir Gaernarfon yn hel deunydd at ei lyfr. DangosMae tri o'r llythyrau a ysgrifennodd o Fangor yn dangos ei fod yn adnabod yr hynafiaethydd lleol [[Paul Panton]] o Fôn.
 
Mae yna fwlch llwyr yn ein gwybodaeth am yr awdur ar ôl ei gyfnod yng Nghymru. Cafodd danysgrifiadau i'r llyfr arfaethedig, yn cynnwys Paul Panton, ond methiant fu'r brosiect. Ymddengys fod yr awdur wedi syrthio ar amser caled. Bu farw yn ddibriod ac unig yn [[Dulyn|Nulyn]] ar yr 17eg o Hydref 1824.