Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
parhau |
parhau - traddodiadau |
||
Llinell 7:
Gŵyl [[ffrwythlondeb]] a [[thwf]] oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.
Yn ôl y Mabinogi arferai [[Gwyn ap Nudd]] a [[Gwythyr fab Greidawl]] ymryson â'i gilydd am law [[Creiddylad]] brydferth pob Calan Mai.
== Traddodiadau ==
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel sumbol o dwf.
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
* Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl.
==Gweler hefyd:==
|