Gŵyl Galan Awst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Calan Awst |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 23:22, 20 Chwefror 2009
Mae Gŵyl Calan Awst ar y cyntaf o Awst ac yn ŵyl Celtaidd hynafol iawn. Gelwir hi hefyd gan yr enwau Gwyddeleg Lughnasadh neu'n Lammas. Dyma ŵyl Lleu, wrth gwrs, neu Lugh gan y Gwyddel, sef duw goleuni. Enw'r Rhufeiniaid ar Lyons (Ffrainc) oedd Lugudunum (Caer Lleu) a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl i'r un duw Celtaidd tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac amaethyddiaeth a chynheuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.
Yn Canzo, yng ngogledd yr Eidal, mae'r trigolion lleol yn dal i ddathlu'r hen dduw Lughnasadh ac felly hefyd yn y Swistir lle ceir gŵyl banc cenedlaethol ar y diwrnod hwn a chynnau coelcerthi.
Gweler hefyd:
Ffynonellau:
- Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.