Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gŵyl Galan Awst"

Ychwanegwyd 114 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
cyfeiriadau
(Calan Awst)
 
(cyfeiriadau)
Mae '''Gŵyl Calan Awst''' ar y cyntaf o Awst ac yn ŵyl Celtaidd hynafol iawn. Gelwir hi hefyd gan yr enwau Gwyddeleg '''Lughnasadh''' neu'n Lammas. Dyma ŵyl [[Lleu]], wrth gwrs, neu Lugh gan y Gwyddel, sef duw goleuni. Enw'r [[Rhufain|Rhufeiniaid]] ar [[Lyons]] ([[Ffrainc]]) oedd Lugudunum (Caer Lleu) a chaed Gŵyl Awgwstws yno fel dathliad o'r hen dduw Celtaidd. Felly hefyd yn Iwerddon lle parodd gŵyl i'r un duw Celtaidd tan yn ddiweddar. Gŵyl yn ymwneud â goleuni ydoedd hi, ac [[amaethyddiaeth]] a chynheuwyd coelcerthi ym mhobman i'w dathlu.
 
Yn [[Canzo]], yng ngogledd yr Eidal, mae'r trigolion lleol yn dal i ddathlu'r hen dduw Lughnasadh <ref>Gweler y Wikipedia Saesneg ar: [http://en.wikipedia.org/wiki/Canzo]</ref> ac felly hefyd yn y Swistir lle ceir gŵyl banc cenedlaethol ar y diwrnod hwn a chynnau coelcerthi.
 
==Gweler hefyd:==
== Ffynonellau: ==
* ''Duwiau'r Celtiaid'' gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Gwyliau Celtaidd]]