Y Lagŵn Glas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Mae'r dyfroedd cynnes yn gyfoethog mewn mwynau fel [[silica]] a [[sylffwr]] ahonnir bod ymdrochi yn y dŵr yn helpu rhai pobl sy'n dioddef o glefydau croen megis [[soriasis]].<ref>{{cite web|url=http://www.newsweek.com/id/130626|title=Iceland's Energy Lessons|date=5 April 2008|publisher=}}</ref> Tymheredd cyfartalog y dŵr yn yr ardal nofio yw 37-39C. Mae'r Lagŵn hefyd yn gweithredu cyfleuster ymchwil i helpu i ddod o hyd i iachiadau ar gyfer anhwylderau eraill ar y croen gan ddefnyddio'r dŵr sy'n llawn mwynau.
 
Darperir y cynnwys mwynol cyfoethog gan yr haenau daearegol o dan y ddaear ac fe'i gwthiwyd hyd at yr wyneb gan y dŵr poeth (ar tua {{convert|1.2|MPa|abbr=on}} pwysedd a {{convert|240|°C}} tymheredd) a ddefnyddir yn yr orsaf. Yn sgîl dwysder y minerala, ni ellir ailgylchu'r dŵr ac, felly, rhaid ei waredu yn y tirwedd lleol, sef maes lafa sy'n amrywio mewn trwchder o {{convert|50|cm|in|abbr=on}} i {{convert|1|m|ft|abbr=on}}. Y mwynau silicad yw prif achos golwg cysgod lasgllaeth-las y dŵr hwnnw. Ar ôl i'r mwynau ffurfio gwaddol, mae'r dŵr yn treiddio i'r ddaear, ond mae'r gwaddol yn ei gwneud yn anhydraidd dros amser, ac felly mae'n rhaid i'r orsaf gloddio pyllau newydd yn barhaus yn y maes lafa cyfagos.
 
Mae'r lagŵn wedi'i chreu gan ddyn wrth i allbwn dŵr o orsaf ynny Svartsengi cyfagos gael ei hadnewyddu bob dau ddiwrnod. Dyma'r orsaf ynni fwyaf yn y byd o'i math. Mae dŵr yn llifo o'r ddaear ger llif [[lafa]] ac yn cael ei ddefnyddio i redeg tyrbinau ager sy'n cynhyrchu trydan. Ar ôl mynd drwy'r tyrbinau, mae'r stêm a'r dŵr poeth yn mynd trwy gyfnewidydd gwres i ddarparu gwres ar gyfer system wresogi dŵr trefol. Yna caiff y dŵr ei fwydo i'r lagŵn at ddefnydd hamdden a meddyginiaethol.