Robert Fitzhamon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd Fitzhamon yn berthynas i [[Gwilym Goncwerwr]]. Ceir y cofnod cyntaf amdano fel un o gefnogwyr [[Gwilym II, brenin Lloegr]] yn ystod gwrthryfel [[1088]]. Wedi gorchfygu'r gwrthryfel, gwobrwywyd ef a thiriogaethau eang yn [[Swydd Gaerloyw]].
 
Nid oes sicrwydd sut y cafodd feddiant ar deyrnas Morgannwg; yn ôl rhai hanesion, galwodd [[Iestyn ap Gwrgant]], brenin Morgannwg, ef i mewn i'w gynorthwyo yn erbyn [[:en:Einion ap Collwyn|Einion ap Collwyn]], neu yn ôl stori arall, yn erbyn [[Rhys ap Tewdwr]]. Manteisiodd Robert ar hyn i gipio iseldiroedd Morgannwg, rywbryd rhwng [[1089]] a [[1094]]. [[Castell Caerdydd]] oedd ei brif gaer.
 
Ail-sefydlodd Abaty [[Tewkesbury]] yn 1092. Cymerwyd ef yn garcharor yn [[Normandi]] ger [[Bayeux]] yn [[1105]]. Llwyddodd y brenin [[Harri I, brenin Lloegr|Harri I]] i'w ryddhau, ac aethant ymlaen i warchae ar [[Falaise]]. Clwyfwyd Fitzhamon yn ei ben yn ddifrifol yno, a bu farw ddwy flynedd yn ddiweddarach.