Gŵyl Mabsant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant'''<ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>) yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]] er mai gŵyl [[pagan|baganaidd]] ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur "Cwm Eithin".
 
Yr oedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron [[cymdeithas]]ol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd [[llan]] yr eglwys leol fel arfer.
 
Gyda threigliad amser collwyd ysytyr crefyddol yr ŵyl ac fe aeth yn achlysur seciwlar yn bennaf gyda'r pwyslais ar wledda, yfed aca gorchestion ymladd a [[mabolgampau]] o ganlyniad i hynny. Ar [[Ynys Môn]], er enghraifft, byddai pobl yn trefnu rasus i ddynion a cheffylau gyda phobl yn betio ar y canlyniad. Arferid cystadlu ar y [[pedwar camp ar hugain]] hefyd.
 
Roedd yr [[Ymneilltuaeth|Ymneilltuwyr]] - yn arbennig y [[Methodistiaid]] - yn feirniadol iawn o'r gwyliau mabsant am eu bod yn cynrychioli "tywyllwch" yr oes [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] a theyrnasiad "[[ofergoel]]ion [[Pab]]yddol".