Tŷ haf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau) brawddeg am ddadl yn y rhagdraeth: ehangu, ond symud hefyd |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) B symud y frawddeg fel ei bod yn swnio'n llai od, fel y bu crybwyll yn y sgwrs |
||
Llinell 1:
[[Tŷ]] a ddefnyddir fel cartref dros dro pan fo pobl ar wyliau yw '''tŷ haf''', disgrifir ef yn aml fel '''ail gartref'''.
I'w gymharu â gwestai a [[gwely a brecwast]], gall rhentu tŷ gyda chyfleusterau arlwyo arbed llawer o arian i deuluoedd neu grwpiau o bobl sy'n mynd ar wyliau gyda'i gilydd. Mae nifer o fusnesau wedi datblygu [[gwefan|gwefannau]] lle y gall perchnogion tai haf hysbysebu eu heiddo a gall y cwsmeriaid chwilio am dŷ i'w rentu am gyfnod byr. Mae dyfodiad y we wedi achosi i dai haf gystadlu gyda [[gwesty|gwestai]] ar raddfa llawer mwy nag yn y gorffennol.
Nid yw pob tŷ haf yn eiddo a ddefnyddir er mwyn elw yn unig; fe'i defnyddir yn aml fel [[ail gartref]] ar gyfer teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd dinesig. Gall y teuluoedd hyn ei rentu i ymwelwyr eraill pan nad ydynt yn ei ddefnyddio eu hunain, er mwyn talu'r morgais ar yr ail gartref, neu rannu'r gost gyda ffrindiau drwy [[rhanberchnogaeth|ranberchnogaeth]].
|