Henri de La Tour d’Auvergne, vicomte de Turenne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|right|200px|Turenne. Cadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain oedd '''Henri de La Tour d’Auvergne, vicomt…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:59, 24 Chwefror 2009

Cadfridog Ffrengig yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain oedd Henri de La Tour d’Auvergne, vicomte de Turenne, a adnabyddor fel rheol fel Turenne (11 Medi 1611 - 27 Gorffennaf 1675).

Turenne.

Ganed Turenne yn Sedan, yn awr yn nwyrain Ffrainc ond yr adeg honno yn dywysogaeth annibynnol. Roedd yn ail fab i Henri de La Tour d'Auvergne, tywysog Sedan a'i wraig Elisabeth o Nassau. Magwyd ef fel Protestant, ond troes at yr Eglwys Gatholig yn 1668.

Yn 1630, daeth yn filwr dros Ffrainc. Yn fuan roedd wedi codi i safle marechal-de-camp, ac yn 1643 penodwyd ef yn Farsial, yna yn 1660 yn Farsial-cyffredinol Ffrainc, un o ddim ond chwech person i ddal y teil yma erioed.

Roedd Turenne yn un o gadfridogion amlycaf y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, ac ennillodd nifer o fuddigoliaethau pwysig. Lladdwyd ef bron ar ddechrau Brwydr Pont Konzer yn 1675.