Richard Davies (Mynyddog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
Cafodd yrfa hir ar lwyfannau'r eisteddfodau, bach a mawr, yn cyflwyno, yn adrodd ac yn datgan ei gerddi. Teithiodd bob rhan o Gymru a bu ar daith i [[America]] hefyd, gan ymweld â [[Rhaeadr Niagara]] ac [[Efrog Newydd]]. Roedd yn gyfaill i'r [[baled]]wr [[Owain Meirion]].
 
Cyhoeddodd dair cyfrol o gerddi yn ystod ei oes, yn [[1866]], [[1870]] a [[1877]]. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith i'r [[Y cylchgrawn Cymraeg|cylchgronau]] llenyddol Cymraeg yn ogystal. Cofir amdano hefyd am iddo weithio gyda [[Joseph Parry]] ar yr [[opera]] [[Blodwen]]. Mae ambell gerdd ganddo yn dal yn boblogaidd heddiw: megis y gerdd wladgarol ysgafn "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg", "Pistyll y Llan" a "Myfanwy"; ef hefyd a sgwennodd pennill wreiddiol "[[Sosban Fach]]".
 
Bu farw'r bardd ar 14 Gorffennaf, 1877, a chafodd ei gladdu yn ei hoff lecyn, sef Llanbrynmair.