Ryan Day: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SUSANREES (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Ryan Day"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:49, 4 Ebrill 2018

Mae Ryan Day (a anwyd 23 Mawrth 1980) yn chwaraewr snwcer proffesiynol o Gymru. Fel adeiladwr pwyntiau gwych, mae wedi casglu mwy na 300 o doriadau o dros gant o bwyntiau yn ystod ei yrfa.

Gyrfa

Gyrfa cynnar

Ganwyd Day ym Mhontycymer, Pen-y-bont ar Ogwr, a dechreuodd ei yrfa broffesiynol trwy chwarae yn Nhaith y DU ym 1998, a oedd ar y pryd yn daith broffesiynol ail lefel. Fe'i enwyd yn Chwaraewr Ifanc o Ragoriaeth y tymor 2000/2001 gan Gymdeithas Biliards a Snwcer Proffesiynol y Byd (WPBSA). Enillodd Bencampwriaeth Benson & Hedges 2001. Trwy ennill y gystadleuaeth hon, roedd yn gymwys i chwarae yn y Meistri yn 2002, lle y maeddodd Dave Harold, cyn colli 0-6 yn erbyn Stephen Hendry. Enillodd Taith Sialens WPBSA hefyd yn ystod tymor 2001/2002 a chafodd ei enwi'n Newydd-ddyfodiad y Flwyddyn WPBSA yn 2002. Oherwydd problemau gyda'i iau yn 2003, dioddefodd ei ganlyniadau yn wael iawn.

Yn 2004, fodd bynnag, sicrhaodd le ar gyfer Pencampwriaeth Snwcer y Byd a bu ar y blaen yn erbyn John Higgins o 9-7 yn y rownd gyntaf, gan fod y chwaraewr cyntaf i sgorio tri sgor o gant yn ei gêm gyntaf yn y Crucible, ond methodd y bel binc yn yr 17eg ffrâm a fyddai wedi golygu fod angen snwcer ar Higgins i aros yn y twrnament. Aeth Higgins ymlaen i ennill y ffrâm a'r ddwy ffram nesaf i ennill y gem. Fel rhywfaint o gysur, dywedodd Higgins fod Day "yn mynd i fod yn chwaraewr o safon uchel am flynyddoedd i ddod".

2005–2011

Cyrhaeddodd Day rownd go-gynderfynol ei dwrnamaint cartref, Agored Cymru 2005 gan drechu Allister Carter a Steve Davis ar hyd y ffordd (yn dod yn ôl o 0-4 i guro Steve Davis 5-4). Gorffennodd y tymor hwn yn y 33ain safle, ond gan nad oedd Quinten Hann yn cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau, roedd Day bob amser ymhlith y 32 uchaf, oedd yn golygu un gêm yn llai i chwarae i fod yn gymwys, nag y byddai fel arall wedi ei wynebu.

Yn ôl yn y Crucible yn 2006, curodd Joe Perry 10-3 yn y rownd gyntaf ac roedd yn y blaen o 9-7 yn erbyn Ronnie O'Sullivan yn yr ail rownd cyn colli 10-13. O ganlyniad, methodd o drwch blewyn a chyrraedd yr 16 uchaf.

Y tymor 2006/2007 oedd y mwyaf llwyddiannus o'i yrfa hyd yn hyn. Cyrhaeddodd Day rowndiau gogynderfynol Tlws Gogledd Iwerddon yn 2006 a daeth yn ail yng Nghwpan Malta 2007, gan golli o 4-9 yn erbyn Shaun Murphy. Sicrhaodd perfformiad y flwyddyn honno iddo le yn 16 gorau yn y byd ar gyfer tymor 2007/2008, un lle yn uwch na'r flwyddyn flaenorol. Fel aelod o'r 16 uchaf, roedd yn gymwys yn awtomatig ar gyfer twrnameintiau.

Dechreuodd tymor 2007/2008 Day gydag ymddangosiad yn rownd derfynol Meistri Shanghai; Roedd Day ar y blaen i'w bartner ymarfer Dominic Dale 6-2 ar ôl y sesiwn gyntaf, ond yn y pen draw fe'i trechwyd o 6-10. Ar ôl methu â symud ymlaen i'r 16 olaf yn y tair twrnamaint nesaf, fe gyrhaeddodd rownd cyn-derfynol Twrnament Agored Tseina, gan guro Matthew Stevens, Ken Doherty a Mark Williams cyn iddo gael ei guro gan Stephen Maguire 5-6, a wadodd lle iddo yn y rownd derfynol. Fe wnaeth Day fynd i'r rownd go-gynderfynol Pencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf yn ei yrfa trwy faeddu Michael Judge o Iwerddon 10-6 a'r pencampwr amddiffynol John Higgins 13-9 yn un o enillion gorau ei yrfa cyn colli 7 -13 i Stephen Hendry. Gwnaeth ei berfformiadau cyson sichau'r 8fed safle iddo.

Cyrhaeddodd Day rownd derfynol Grand Prix 2008 lle collodd i John Higgins, gan drechu Ricky Walden, Mark Selby, Jamie Cope ac Ali Carter. Daeth y flwyddyn i ben ar nodyn siomedig pan gollodd yn y rownd gyntaf ym Mhencampwriaeth y DU i Matthew Stevens. Fe gyrhaeddodd rownd go-gynderfynol Pencampwriaeth y Byd yn 2009, cyn colli 11-13 i Mark Allen. Fodd bynnag, parhaodd i ddringo'r safleoedd, gan gyrraedd rhif 6, y chwaraewr yn y safle uchaf a oedd heb ennill unrhyw gystadleuaeth.

Roedd tymor 2009/2010 yn un siomedig gan iddo gyrraedd dim ond un chwarter olaf (yn Agored Cymru), gan arwain at golli yn y rownd gyntaf o 8-10 ym Mhencampwriaeth y Byd i Mark Davis. Parhaodd hyn i mewn i'r tymor nesaf lle cafodd ei drechu nifer o weithiau yn y rowndiau cynnar a oedd yn golygu, yn yr adolygiad cyntaf o dan y system graddio newydd, ei fod yn gadael yr 16 uchaf, a disgyn i lawr i rif 20.

Tymor 2011/2012

Sicrhaodd Day le ar gyfer pump o'r wyth twrnamaint safle yn ystod tymor 2011/2012, gan golli yn y rownd gyntaf mewn pedair ohonynt. Daeth ei berfformiad gorau ar ddiwedd y tymor yn y digwyddiad mwyaf ar galendr y twrnamaint, Pencampwriaeth y Byd. Daeth yn ôl o 3-7 i lawr yn ei gêm i fod yn gymwys i chwarae, yn erbyn Gerard Greene i ennill 10-8, i chwarae yn gêm y rownd gyntaf yn erbyn rhif 1 Tsieina, Ding Junhui. Daeth Day yn ôl, y tro hwn o fod ar ei hol hi 6-9 i ennill y 4 ffram olaf a symud ymlaen i'r ail rownd. Yno enillodd yn erbyn Cao Yupeng 13-7 a buodd ar y blaen o 5-2 yng nghyfnodau cynnar ei gêm go-gynderfynol yn erbyn ei gyd Gymro Matthew Stevens. Fodd bynnag, dioddefodd figrein ar ddechrau'r sesiwn nesaf ac aeth ymlaen i golli 11 ffram yn olynol i adael y twrnamaint 5-13. Gorffennodd Day y tymor yn rhif 30 yn y byd.

Tymor 2012/2013

 
2012 Paul Hunter Classic

Collodd Day wrth gymhwyso ar gyfer digwyddiad safoni agoriadol tymor 2012/2013 y Wuxi Classic 0-5 i Robert Milkins. Yna cafodd ei guro yn ail rownd Pencampwriaeth Goldfields Agored Awstralia a Meistri Shanghai, 3-5 i Matthew Selt a 0-5 i John Higgins yn y drefn honno. Cafodd Day ei drechu 3-6 gan Neil Robertson yn rownd agoriadol y Pencampwriaeth Ryngwladol, ond wedyn daeth y canlyniad gorau o'i dymor ym Mhencampwriaeth y DU. Maeddodd Ding Junhui 6-4 yn y rownd gyntaf mewn gem o safon uchel, ac er iddo fod ar y blaen o 3-0 yn erbyn Mark Selby, rhif dau y byd, colli a wnaeth o 4-6. Chwaraeodd Day mewn naw o'r deg digwyddiad Pencampwriaeth Chwaraewyr Mân-Safle yn ystod y tymor gyda'i ganlyniadau gorau pan gollodd ddwywaith yn y rowndiau go-gynderfynol i fod yn safle 32 y Rhestr Teilyngdod, ychydig y tu allan i'r 26 uchaf a oedd yn gymwys ar gyfer y Rowndiau Terfynol. Cafodd Day hi'n anodd yn ail hanner y tymor gan ei fod wedi methu â chymhwyso ar gyfer pedair o'r pum digwyddiad a oedd yn weddill, gan golli 2-5 yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Agored y Byd i Mark Allen yn yr un a gyrhaeddodd. Methodd â bod yn gymwys ar gyfer Pencampwriaeth y Byd am y tro cyntaf ers 2006, gan golli o drwch blewyn i Ben Woollaston 9-10 yn y bedwerydd a'r rownd derfynol i fod yn gymwys. Gorffennodd y tymor yn rif 31 y byd.

Tymor 2013/2014

 
Meistri'r Almaen 2014

Cafodd Day ei guro yn yr ail rownd unwaith ac yn y rownd gyntaf dair gwaith yn y pedwar digwyddiad agoriadol yn ystod tymor 2013/2014, ond yna cyrhaeddodd y rowndiau chwarter olaf am y tro cyntaf am dros blwyddyn yn y Bencampwriaeth Ryngwladol. Enillodd Day y ffrâm gyntaf yn erbyn Joe Perry ond fe'i curwyd yn drom o 6-1. Aeth un cam ymhellach ym Meistri'r Almaen ac, mewn ymgais i chwarae yn ei rownd derfynol gyntaf ers 2008, daeth yn ol o 5-3 i lawr yn erbyn Ding Junhui i fod yn gyfartal, ond collodd y ffrâm olaf. Dilynodd triawd o golledion ail rownd a cholli'r rownd gyntaf ym Mhencampwriaeth Agored Tsieina. Ym Mhencampwriaeth y Byd, daliodd ati pan ddaeth Stephen Maguire yn gyfartal o 8-4 a 9-6 ar ei hol hi yn y rownd gyntaf, i ennill y ffrâm derfynol a symud ymlaen i'r ail rownd. Yna daeth ei dymor i ben pan gollodd o 13-7 yn erbyn Judd Trump, ond dringodd10 safle i fod yn rif 21 yn y byd, y safle gorau iddo ers pedair mlynedd.

Tymor 2014/15

 
Meistri'r Almaen 2015

Am yr ail dymor enillodd Day ei le ar gyfer pob digwyddiad safoni. Cael ei orchfygu yn y 16 olaf yn y Wuxi Classic a Meistri Shanghai oedd ei ganlyniadau gorau yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn. Yn yr Haining City Open, llwyddodd i ennill ei rediad swyddogol mwyaf am y tro cyntaf yn ei gêm 32 olaf yn erbyn Cao Yupeng. Aeth Day ymlaen i gyrraedd y rowndiau chwarteri olaf, ond collodd o 4-2 yn erbyn Oliver Lines. Ar ôl i Day ennill y ddwy ffram olaf yn ei gêm rownd gyntaf yn erbyn rhif un byd, Ding Junhui, ym Meistri'r Almaen i'w drechu o 5-4, dywedodd ei fod yn gweithio ar ei gysondeb gan anelu i fod ymhlith y goreuon unwaith eto. Yna trechodd Alfie Burden 5-2 i wynebu Liang Wenbo yn unig ymddangosiad Day yng nghwarteri-olaf y tymor a chafodd ei guro o drwch blewyn o 5-4. Ym Mhencampwriaeth Agored Cymru collodd Day yn annisgwyl i'r amatur Oliver Brown o 4-1yn yr ail rownd. Roedd Day yn ennill o 3-1 yn erbyn Mark Allen yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd, ond yna collodd naw ffram yn olynol i gael eu faeddu o 10-3.

Tymor 2015/2016

[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad 2|22x20px|Nodyn:Alias gwlad 2|link=2]]

Collodd Day o 5-4 yn erbyn Ding Junhui yn ail rownd Meistri Shanghai, Daeth yn ol o'r un sgor yn y Bencampwriaeth Ryngwladol gan ei guro o 6-5. Cafodd Day ei drechu o 6-4 gan David Gilbert yn y rownd ganlynol. Fodd bynnag, yn ei ddigwyddiad nesaf, trechodd Mark Selby o 4-0 yn rowndiau chwarter olaf Pencampwriaeth Agored Bwlgaria gan guro Sam Baird 4-2 i chwarae yn y rownd derfynol o ddigwyddiad oedd yn cario pwyntiau safle am y tro cyntaf ers 2008, ond cafodd ei drechu 4-0 gan Mark Allen. Collodd 6-2 i Dechawat Poomjaeng yn ail rownd Pencampwriaeth y DU, ond enilodd yn erbyn y pencampwr byd, Stuart Bingham, o 5-3 i gyrraedd rowndiau chwarter olaf y Meistri Almaeneg. Collodd Day y dair ffram olaf yn erbyn Kyren Wilson i gael ei drechu o 5-4. Gwnaeth ddwy rediad o dros gant ac enillodd y ffrâm derfynol ar y bel ddu olaf yn erbyn John Higgins i gyrraedd chwarter olaf arall yn Grand Prix y Byd. Cafodd ei drechu 4-2 gan Bingham, gan golli'r ffrâm derfynol er ei fod 56-0 o bwyntiau i fyny, ar ôl i Bingham gwneud rhediad o 64. Ar ôl cael ei drechu 10-3 gan Higgins yn rownd gyntaf Pencampwriaeth y Byd, dywedodd Day y byddai'n gweithio ar ei ffitrwydd yn ystod y tymor rhydd mewn ymgais i wella ei ganolbwyntio yn ystod gemau.

Tymor 2016/17

Aeth Day ymlaen i chwarteri olaf Meistri Shanghai trwy drechu Neil Robertson a Mei Xiwen o 5-2 a cholli o 5-3 yn erbyn Mark Selby. Enillodd y pedair ffram gyntaf yn erbyn Mark Allen yn nhrydedd rownd Pencampwriaeth y DU, ond aeth ymlaen i golli 6-5. Daeth ei ail gem yng nghwarteri olaf y tymor ym Meistri'r Almaen a chafodd ei orchfygu 5-2 gan Martin Gould. Yng Ngrand Prix y Byd, maeddodd Day Stuart Bingham, Michael White a Shaun Murphy o 4-2 ymhob gem. Yn y rownd derfynol roedd 4-3 ar ei hol hi i Marco Fu, ond daeth yn ol o angen pedwar snwcer yn yr wythfed ffrâm i fod yn gyfartal ac aeth ymlaen i ennill 6-4. Yn y rownd derfynol ar gyfer digwyddiad cyntaf safoni Day ers 2008 roedd ar ei hol hi o 9-3 yn erbyn Barry Hawkins ac, er ei fod wedi llwyddo i gyrraedd 9-7, cafodd ei orchfygu o 10-7. Collodd Day yn rownd derfynol Cynghrair Pencampwriaeth 3-0 i John Higgins. Ar ol ennill o 4-2 yn erbyn Neil Robertson cyrhaeddodd Day rownd derfynol Pencampwriaeth Agored Gibraltar a chafodd ei guro 4-2 gan Judd Trump ar ôl iddo fod ar y blaen o 2-0. Roedd Day yn chwaraewr dethol ar gyfer Pencampwriaeth y Byd, ond collodd o 10-4 yn erbyn Xiao Guodong yn y rownd gyntaf ac unwaith eto beiodd ei ddiffyg canolbwyntio am fynd allan yn gynnar.

Bywyd personol

Priododd Day chwaer ei lys-fam, Lynsey, yn ystod Haf 2008. Dywedodd Lynsey - sy'n bedair blynedd yn hŷn na Day - wrth bapur newydd 'The Sun' eu bob wedi bod yn gariadon ers pan oedd Day yn yn 13 oed. Mae gan y cwpl ddwy ferch, Francesca, a anwyd yn 2006 a Lauren, yn 2010. Mae ei frawd iau, Rhys, wedi chwarae pêl-droed i Manchester City ac i dim o dan 21 Cymru.

Amserlen perfformiad a safleoedd

Tournament 1997/

98

1998/

99

1999/

00

2000/

01

2001/

02

2002/

03

2003/

04

2004/

05

2005/

06

2006/

07

2007/

08

2008/

09

2009/

10

2010/

11

2011/

12

2012/

13

2013/

14

2014/

15

2015/

16

2016/

17

2017/

18

Ranking UR UR 69 45 33 17 16 8 6 12 28 30 31 21 20 23 19
Ranking tournaments
Riga Masters Tournament Not Held Minor-Rank. 1R W
China Championship Tournament Not Held NR 2R
Paul Hunter Classic Tournament Not Held Pro-am Event Minor-Ranking Event 2R A
Indian Open Tournament Not Held 1R 1R NH 1R A
World Open A A LQ LQ A 2R LQ 1R 1R 2R 2R F 1R LQ LQ 1R 2R Not Held 3R 2R
European Masters Tournament Not Held A LQ LQ 1R LQ F NR Tournament Not Held LQ 1R
English Open Tournament Not Held 4R 1R
International Championship Tournament Not Held 1R QF 2R 3R 1R 2R
Shanghai Masters Tournament Not Held F QF QF 1R 1R 2R 2R 2R 2R QF 1R
Northern Ireland Open NH A Tournament Not Held 1R 4R
UK Championship A A LQ LQ A LQ LQ 2R 1R 2R 1R 1R 1R 2R 1R 2R 1R 2R 2R 3R SF
Scottish Open A A LQ 2R A 1R 2R Tournament Not Held MR Not Held 2R 1R
German Masters A NR Tournament Not Held 1R 1R LQ SF QF QF QF QF
Shoot-Out Tournament Not Held Variant Format Event 1R 1R
World Grand Prix Tournament Not Held NR QF F 1R
Welsh Open A A 3R LQ A LQ LQ QF 3R 1R 3R 1R QF 2R LQ LQ 2R 2R 3R 2R 1R
Gibraltar Open Tournament Not Held MR SF W
Players Championship[nb 1] Tournament Not Held DNQ DNQ DNQ 2R 1R 2R 1R
China Open NR A LQ LQ A Not Held 2R LQ LQ SF SF 2R 2R LQ LQ 1R 2R 2R LQ LQ
World Championship LQ LQ LQ LQ LQ LQ 1R LQ 2R 1R QF QF 1R 1R QF LQ 2R 1R 1R 1R
Non-ranking tournaments
Champion of Champions Tournament Not Held A A A A QF
The Masters LQ A LQ LQ 1R LQ LQ A LQ LQ 1R 1R QF A A A A A A A QF
Championship League Tournament Not Held SF RR RR 2R RR RR 2R RR RR F RR
Romanian Masters Tournament Not Held
Variant format tournaments
Six-red World Championship[nb 2] Tournament Not Held A 2R A NH A A 1R 2R 2R 1R
Former ranking tournaments
Malta Grand Prix Non-Rank. LQ NR Tournament Not Held
Thailand Masters A A LQ LQ A NR Not Held NR Tournament Not Held
British Open A A LQ LQ A LQ LQ 1R Tournament Not Held
Irish Masters Non-Ranking Event WD LQ LQ NH NR Tournament Not Held
Northern Ireland Trophy Tournament Not Held NR QF 3R 3R Tournament Not held
Bahrain Championship Tournament Not Held 2R Tournament Not Held
Wuxi Classic Tournament Not Held Non-Ranking Event LQ 1R 3R Not Held
Australian Goldfields Open Tournament Not Held 1R 2R 1R 1R A Not Held
Former non-ranking tournaments
Masters Qualifying Event LQ A LQ QF W LQ 2R NH 3R QF A A A Not Held
European Open Tournament Not Held Ranking Event RR Tournament Not Held Ranking
Wuxi Classic Tournament Not Held SF RR QF A Ranking Event Not Held
World Grand Prix Tournament Not Held 1R Ranking
Former variant format tournaments
Shoot-Out Tournament Not Held 3R 3R 2R SF 1R QF Ranking
Performance Table Legend
LQ lost in the qualifying draw #R lost in the early rounds of the tournament

(WR = Wildcard round, RR = Round robin)

QF lost in the quarter-finals
SF lost in the semi-finals F lost in the final W won the tournament
DNQ did not qualify for the tournament A did not participate in the tournament WD withdrew from the tournament
NH / Not Held means an event was not held.
NR / Non-Ranking Event means an event is/was no longer a ranking event.
R / Ranking Event means an event is/was a ranking event.
RV / Ranking & Variant Format Event means an event is/was a ranking & variant format event.
MR / Minor-Ranking Event means an event is/was a minor-ranking event.
PA / Pro-am Event means an event is/was a pro-am event.
VF / Variant Format Event means an event is/was a variant format event.
  1. The event was called the Players Tour Championship Grand Finals (2010/2011–2012/2013) and the Players Championship Grand Final (2013/2014–2015/2016)
  2. The event was called the Six-red Snooker International (2008/2009) and the Six-red World Grand Prix (2009/2010)

Rowndiau terfynol ei yrfa

Ranking finals: 6 (2 titles, 4 runners-up)

Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Runner-up 1. 2007 Malta Cup   Murphy, ShaunShaun Murphy 4–9
Runner-up 2. 2007 Shanghai Masters   Dale, DominicDominic Dale 6–10
Runner-up 3. 2008 Grand Prix Higgins, JohnJohn Higgins 7–9
Runner-up 4. 2017 World Grand Prix   Hawkins, BarryBarry Hawkins 7–10
Winner 1. 2017 Riga Masters Maguire, StephenStephen Maguire 5–2
Winner 2. 2018 Gibraltar Open Yupeng, CaoCao Yupeng 4–0

Minor-ranking finals: 1 (1 runner-up)

Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Runner-up 1. 2015 Bulgarian Open Allen, MarkMark Allen 0–4

Non-ranking finals: 5 (1 title, 4 runners-up)

Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Winner 1. 2001 Benson & Hedges Championship Abernethy, HughHugh Abernethy 9–5
Runner-up 1. 2001 Challenge Tour - Event 2 Leo Fernandez 3−6
Runner-up 2. 2002 Challenge Tour - Event 4   David Gilbert 3−6
Runner-up 3. 2010 Beijing International Challenge Tian Pengfei 3−9
Runner-up 4. 2017 Championship League Higgins, JohnJohn Higgins 0–3

Pro-am finals: 7 (4 titles, 3 runners-up)

Outcome No. Year Championship Opponent in the final Score
Winner 1. 2003 EASB Open Tour - Event 1   James Reynolds 5–4
Winner 2. 2003 EASB Open Tour - Event 2   Gray, MarkMark Gray 5–3
Runner-up 1. 2006 Pontins Pro-Am Event 2   Judd Trump 1−4
Runner-up 2. 2006 Pontins Pro-Am Event 4   Ricky Walden 1−4
Runner-up 3. 2006 Pontins Pro-Am Event 6   Dave Harold 1−4
Winner 3. 2006 Pontins Autumn Open   Cope, JamieJamie Cope 5–2
Winner 4. 2008 Austrian Open   Cope, JamieJamie Cope 6–3

Cyfeirnodau

[[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad 2|22x20px|Nodyn:Alias gwlad 2|link=2]]

Dolenni allanol