Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Hunaniaeth, Crefydd (mwy i'w wneud)
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Crefydd: Glanmor Williams
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 36:
O [[Y Normaniaid yng Nghymru|oresgyniadau'r Normaniaid]] yn y de, trwy'r [[Y Goncwest Edwardaidd|goncwest Edwardaidd]] hyd at [[Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542|Ddeddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru (1536 a 1542)]], cafodd yr eglwys yng Nghymru ei seisnigo'n fwyfwy a'i gwneud yn ddarostyngedig i angenion y Goron a'r pendefigion yn Lloegr, yn ogystal â'r bonedd Eingl-Gymreig. Cyfnod o adnewyddiad a chadarnhâd oedd yr 16g i'r rhan helaethaf o'r Gristionogaeth, adeg [[y Diwygiad Protestannaidd]] a'r [[Gwrth-Ddiwygiad]]. Er gwaethaf, noda crefydd yng Nghymru yn ystod [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|oes y Tuduriaid]] gan ddirywiad yr urddau mynachaidd, cau'r mynachlogydd a'r [[siantri|siantrïau]], a phwyslais ar weinyddiaeth ymhlith yr offeiriadaeth yn hytrach na diwinyddiaeth. O ganlyniad i sawl reswm, ni chyrhaeddodd Gymru wir ddylanwad y Diwygiad tan y 18g.
 
Yn yr 20g, bu gostyngiad syfrdanol yn y nifer o eglwyswyr a chapelwyr yng Nghymru. Trafodai sawl hanesydd yr olwg o Gymru "ôl-Gristnogol", a'r posibilrwydd o'r traddodiad anghydffurfiol yn diflannu'n gyfan gwbl.<ref>John I. Morgans a Peter C. Noble, ''Our Holy Ground: The Welsh Christian Experience'' (Talybont: Y Lolfa, 2016), t. 175.</ref><ref>D. Gareth Evans, ''A History of Wales 1906–2000'' (Caerdydd, 2000), t. 281.</ref> Noda [[Glanmor Williams]] taw dyma'r tro cyntaf ers y 6g neu'r 7g i'r mwyafrif o drigolion Cymru beidio ag ystyried y ffydd Gristnogol yn elfen hanfodol o'u Cymreictod.<ref>Glanmor Williams, ''The Welsh and Their Religion'' (Caerdydd, 1991) tt. 69–72.</ref>
 
== Gweler hefyd ==