Mudiad Amddiffyn Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mudiad cenedlaethol Cymreig yn y 1960au oedd '''Mudiad Amddiffyn Cymru''' ('''MAC''').
 
Ffurfiwyd MAC yn wreiddiol fel ymateb i'r cynllun o adeiladu argae ar draws [[Afon Tryweryn]] i greu cronfa ddŵr [[Llyn Celyn]] i ddarparu dŵr i ddinas [[Lerpwl]]. Roedd hyn yn golygu boddi pentref [[Capel Celyn]]. Y sefydlwyr oedd [[Owain Williams]], John Albert Jones ac [[Emyr Llywelyn Jones]]. Ar [[10 Chwefror]], [[1963]], ffrwydrwyd bom ar y safle waith gan dri gŵr; yn ddiweddarach cafwyd Emyr Llywelyn Jones yn euog o hyn a'i ddedfrydu i flwyddyn o garchar. Y diwrnod y dedfrydwyd ef, ffrwydrodd bom ger peilon trydan ger [[Gellilydan]]; carcharwyd Owain Williams a John Albert Jones am hyn yn ddiweddarach.
 
Yn nes ymlaen daeth [[John Barnard Jenkins]] yn arweinydd y mudiad. Credir mai MAC oedd yn gyfrifol am ffrwydro bom ar safle argae [[Llyn Clywedog]] yn [[1966]]. Yn [[1967]] ffrwydrwyd bom ger pibell oedd yn cario dŵr o [[Llyn Llanwddyn|Lyn Llanwddyn]], ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ffrydrodd bom yn y [[Teml Hweddwch|Deml Heddwch]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], gerllaw man oedd i'w defnyddio ar gyfer cynhadledd i drefnu [[Arwisgiad Tywysog Cymru|Arwisgiad]] [[1969]].