86,744
golygiad
B (robot yn ychwanegu: br:Ysbaddaden Pencawr) |
BNo edit summary |
||
[[Cawr]] chwedlonol yw '''Ysbaddaden Bencawr''' ("Ysbaddaden Pennaeth y Cewri"). Mae'n un o brif gymeriadau'r chwedl [[Cymraeg Canol|Gymraeg Canol]] ''[[Culhwch ac Olwen]]''. Merch Ysbaddaden yw [[Olwen]]. Mae [[Culhwch]], arwr y chwedl, wedi ei [[tynged|dynghedu]] gan ei lysfam i garu ac i ennill llaw Olwen yn unig. Ond os bydd Culhwch yn priodi Olwen bydd Ysbaddaden yn marw. Mae pob arwr arall a geisiai Olwen wedi methu neu farw yn yr ymgais.
Mae'r cawr yn gwrthod cais Culhwch am law Olwen deirgwaith gan daflu gwaywffon wenwynig ato bob tro. Y trydydd tro mae Culhwch yn dal y waywffon a'i bwrw yn ôl gan daro Ysbaddaden yn ei lygad. Mae Ysbaddaden yn ildio i gais Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawnu deugain tasg amhosibl (yr [[Anoethau]]) cyn iddo gael priodi Olwen. Ar ôl cyfres o anturiaethau gyda chymorth arwyr llys [[Arthur]] mae Culhwch yn cyflawni'r Anoethau. Mae [[
==Llyfryddiaeth==
|