Atmosffer y Ddaear: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
ail-osod brawddeg (gw. sgwrs)
Llinell 12:
Haen yr awyrgylch sy'n cynnwys 90% o'r osôn yw'r stratosffer. Mae'r haen denau o osôn yn y stratosffer yn amsugno golau [[uwchfioled]] gan gynhyrchu gwres yn y broses. Amrywia'r tymheredd o tua -75°C yn y tropoffin yn y trofannau i tua 10°C yn y stratoffin uwchben pegyn yr hemisffer haf. Y tropoffin sy'n gwanhanu rhan yma'r atmosffer oddi wrth y Troposffer.
===Mesosffer===
Haen uwchben y stratoffin ydy'r mesosffer. Mae'r tymheredd yn gostwng gyda chynnydd mewn uchder. Gall tymheredd y mesoffin gyrraedd -130°C sef rhan oeraf yr awyrgylch; mae hyn yn digwydd uwchben pegyn yr hemisffer yn yr haf (nid gaeaf) oherwydd cylchrediad yr awyr.
 
===Thermosffer===
Mae'r thermosffer wedi ei leoli uwch y mesosffer ac is yr ecsosffer. Mae [[ymbelydredd]] uwch fioled yn achosi [[ïoneiddiad]] yma. Mae'r thermosffer yn dechrau tua 90km uwch y ddaear ac yn ymestyn tua 600km.