Cymraeg ysgrifenedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu erthygl
 
B ma^n frycheiau
Llinell 15:
Mae'r Gymraeg wrthi'n ehangu ei defnydd i feysydd newydd mewn addysg, busnes, gweinyddiaeth, llywodraeth a'r cyfryngau ac yn ehangu geirfa ar gyfer syniadau a phethau newydd sy'n ymddangos o hyd ac o hyd. Rhaid wrth fathu termau Cymraeg newydd a hynny ar garlam. Weithiau bathir term newydd ar draul gair hŷn nas arferir heddiw am fod y diwydiannau lle y'u defnyddid wedi darfod neu wedi Seisnigeiddio; e.e. '''sbring fflat''' heddiw yn hytrach na '''twythell''' a arferid gynt. Wrth fathu termau ceir amrywiol dermau neu sillafiadau gan wahanol gyfieithwyr neu mewn gwahanol ardaloedd am yr un peth, e.e. cyfieithir ''Financial Reporting Standard for Small Entities'' fel ''Safon Adroddiadau Ariannol ar gyfer Endidau Bach'' gan Dŷ'r Cwmnïau ac fel ''Safon Adrodd Ariannol ar gyfer Endidau Llai'' gan y Comisiwn Elusennau. Mae rhywfaint o safoni yn digwydd wrth i eiriaduron newydd ymddangos yn y meysydd newydd yma; e.e. geiriaduron termau tebyg i ''Eiriadur Termau Iechyd yr Henoed''. Wedi dweud hynny nid yw'r geiriaduron yn cytuno yn aml ar sillafiad neu derm Cymraeg, e.e. '''côd''' yng ''Ngeiriadur yr Academi'' a'r ''Geiriadur Termau'' a '''cod''' yng ''Ngeiriadur Prifysgol Cymru'' a'r ''Termiadur'' am y gair Saesneg '''code'''.
 
Ers diwedd y 19eg ganrif gwneir gwaith safoni a datblygu'r Gymraeg gan bwyllgorau academaidd wedi eu hysgogi neu eu creu gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]] a'r [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Canolfan Bedwyr yng [[Coleg Prifysgol Cymru, Bangor|Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor]] yw'r adran academaidd fwyaf amlwg ym maes safoni a datblygu'r Gymraeg erbyn heddiw. Ysgogir a threfnir gwaith ar y cyd i ddatblygu Cymraeg safonol gan ddefnyddwyr Cymraeg eraill megis Cydbwyllgor Addysg Cymru. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a ffurfiwyd yn 1976, yn trefnu gwaith ar y cyd rhwng ei haelodau. Cynhelir bwrlwm o waith bathu termau anffurfiol gan sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys cyflwynwyr a gwrandawyr [[radio]]. Nid oes gan [[Cymru|Gymru]] sefydliad ieithyddol wedi ei awdurdodi gan y llywodraeth fel yr Académie Française yn [[Ffrainc]]. Nid yw llywodraeth [[Prydain]] na'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cymreig]] ychwaith wedi deddfu ynglŷn ag unrhyw agwedd ar safon yr iaith Gymraeg fel ag a wnaethpwyd droeon yn yr Almaen ynglŷn ag orgraff yr [[Almaeneg]].
 
Mae rhai pobl weithiau yn ysgrifennu'r Gymraeg llafar neu dafodiaith ar bapur, e.e. i gyfleu sgwrs mewn [[nofel]] a [[drama]] neu mewn llythyr personol. O wneud hyn fe newidir y llafariaid a rhai cytseiniaid yn ôl y dafodiaith. Fe gaiff llythrennau eu newid neu eu hepgor, defnyddir ffurfiau hir y ferf a chystrawen lafar ac ymadroddion a geirfa dafodieithol. Gellir ysgrifennu yn fwy neu'n llai tafodieithol ond o ddechrau ysgrifennu'r iaith lafar ni ellir hepgor gwneud dewisiadau tafodieithol gan fod y llafariaid a ddewisir yn rhwym o fod yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd. Rhaid dewis e.e. rhwng '''nawr/rŵan''' ac '''o'n/we’n/oeddan/oe'n'''. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r dafodiaith honno fe all deall ysgrif ar ffurf lafar neu dafodieithol fod yn anodd. Mae hyn yn cyfyngu ar ba mor ddefnyddiol yw ysgrifennu'r iaith lafar fel ei hyngenir. Enghraifft adnabyddus o [[barddoniaeth|farddoniaeth]] dafodieithol yw'r gerdd 'Pwllderi' gan [[Dewi Emrys]] (I) <ref>Ymddengys y gerdd ''Pwllderi'' gan Dewi Emrys ym Mlodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (''The Oxford Book of Welsh Verse''), gol. [[Thomas Parry]] (Oxford University Press, 1962)</ref> a gyfansoddwyd yn nhafodiaith [[Sir Benfro]]. Ysgrifennwyd y nofel ''[[Un Nos Ola Leuad]]'' gan [[Caradog PritchardPrichard]] yn nhafodiaith [[Bethesda]].
 
Cafwyd ymgais yn y 1960au i ddyfeisio ffurf ar Gymraeg lafar safonol y gellid ei harfer yn yr ysgolion a thu hwnt ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg fel ei gilydd. Ceisiwyd hefyd cael hyd i ffordd safonol o ysgrifennu'r iaith lafar newydd hon. Ysgogwyd yr ymgais hwn gan ddarlith radio Ifor Williams yn 1960 (G) <ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Yr Academi Gymreig, 1986)</ref>. Pontio'r gagendor rhwng Cymraeg llenyddol a llafar ar gyfer myfyrwyr y Gymraeg oedd byrdwn y ddarlith. Wedi gwaith ymchwil gan addysgwyr cyhoeddwyd argymhellion yn y llyfryn ''Cymraeg Byw'' (1964). Bu croeso brwd i Gymraeg byw gan lawer o athrawon ail iaith, ond mynnai eraill y dylid addysgu'r iaith lenyddol yn unig ac eraill eto bod gwell ysgrifennu ffurfiau mwy tafodieithol fyth na'r hyn a argymhellwyd. Ni fabwysiadwyd Cymraeg Byw yn gyffredinol. Ond y mae ei ôl i'w weld yn yr ysgrifennu mwy llafar a thafodieithol a arferir erbyn hyn ar gyfer deialog mewn dramâu a ffuglen.
 
Yn sgil Cymraeg Byw datblygwyd dull mwy anffurfiol na Chymraeg lenyddol draddodiadol o ysgrifennu'r Gymraeg, mewn arddull a ddefnyddiai ffurfiau gramadegol yr iaith lafar a geirfa Cymraeg safonol. Cyfaddawd rhwng iaith lafar a Chymraeg ysgrifenedig ffurfiol ydyw. Gelwir yr arddull hon yn Gymraeg Cyfoes neu yn Gymraeg llai ffurfiol. Ymateb ydoedd i'r angen newydd am gyfathrebu ar bapur â'r cyhoedd nad oeddynt i gyd wedi arfer â darllen Cymraeg llenyddol tu allan i'r capel, yn sgil y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelir Cymraeg Cyfoes mewn taflenni gwybodaeth, erthyglau papur newydd ac mewn nofelau. Rhai o nodweddion iaith llai ffurfiol yw defnyddio [[rhagenw|rhagenwau]] wedi [[berf]] neu [[arddodiad]], defnyddio ffurfiau cwmpasog y ferf, gollwng cytsain olaf rhai arddodiaid a berfau, byrhau '''nid''' i '''d''' yn y ffurf 'dydwi ddim' neu 'dwyf i ddim'.
Llinell 25:
 
===Yr orgraff gyfoes===
Ceir 28 llythyren yn yr [[yr wyddor Gymraeg]] draddodiadol a'r llythyren J mewn geiriau benthyg. Defnyddir arwyddnodau ychwanegol wrth ysgrifennu geiriau fel a ganlyn:
 
*hirnod (neu acen grom) '''ˆ''' ar lafariad i ddynodi llafariad hir ei sain, o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys defnyddio'r hirnod: