Afon Hafren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ca:Riu Severn
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Severn_Aerial.jpg|bawd|200px|[[Pont Hafren]] dros Afon Hafren rhwng Cymru a Lloegr]]
Afon hwyaf ar [[Ynys Prydain]] '''Afon Hafren''' ([[Saesneg]] ''River Severn''), 354 km (219 milltir) o hyd. Mae'n tarddu yng nghanolbarth [[Cymru|Nghymru]] cyn llifo trwy orllewin [[Lloegr]] am ran o'i chwrs a llifo i [[Môr Hafren|Fôr Hafren]] rhwng [[Casnewydd]] a [[Bryste]].
 
Mae Afon Hafren yn tarddu yng nghanolbarth Cymru ar lethrau gogleddol [[Pumlumon]] ger [[Llanidloes]], ar uchder o 610 medr. Nid yw tarddle [[Afon Gwy]] ymhell, ar lethrau deheuol Pumlumon. Mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain trwy Goedwig Hafren. Ychydig cyn cyrraedd [[Llanidloes]] mae [[Afon Dulas]] yn ymuno â hi ac yna yn nhref Llanidloes ei hun mae [[Afon Clywedog]] yn ymuno. O Lanidloes mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain heibio [[Llandinam]] a [[Caersws|Chaersws]], lle mae [[Afon Carno]] yn ymuno. Mae'n llifo trwy [[Y Drenewydd|'r Drenewydd]] a heibio [[Castell Dolforwyn]] ac [[Aber-miwl]] ac yna trwy [[Y Trallwng|'r Trallwng]]. Am ychydig filltiroedd mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yna mae'n croesi i Loegr, lle mae'n parhau tua'r dwyrain i lifo trwy [[Yr Amwythig|'r Amwythig]]. Mae wedyn yn llifo heibio [[Ironbridge]] a [[Bridgnorth]], [[Stourport-on-Severn]] ac yna [[Caerwrangon]], lle mae [[Afon Tefeidiad]] yn ymuno â hi ychydig i'r de o'r ddinas, a [[Tewkesbury]]. Mae'n llifo tua'r de heibio [[Caerloyw]] cyn cyrraedd yr aber ym Môr Hafren, lle mae'n gwahanu Cymru a Lloegr.
 
Mae sawl pont nodedig, yn enwedig pontydd haearn [[Llandinam]] ac [[Ironbridge]], [[Pont Hafren]] ac [[Ail Groesfan Hafren]], a [[twnnel Hafren|thwnnel]] rheilffordd yn croesi'r afon.