Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
nid Eglwys y tylwyth teg |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Defnyddir yr enw '''Tylwyth Teg''', weithiau '''Bendith y Mamau''' yn y de, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn [[chwedloniaeth]] a [[llên gwerin]] llawer gwlad, er enghraifft ''banshee'' yn [[Iwerddon]], ''brownies'' yn [[yr Alban]], ''fairies'' ac ''elves'' yn [[Lloegr]], ''fee'' yn [[Ffrainc]].
Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r [[y Celtiaid|Celtiaid]]. Yn ôl
Chwedl a gysylltir â nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi un o ferched y Tylwyth Teg, ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo â [[haearn]]. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Mae sawl fersiwn o'r chwedl hon yn gysylltiedig â llynnoedd, megis [[Llyn y Fan Fach]] yn [[Sir Gaerfyrddin]] a [[Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu|Llyn y Dywarchen]], [[Rhyd Ddu]]. Gallai'r Tylwyth Teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.
|