Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Crefydd: Glanmor Williams
Tagiau: Golygiad cod 2017
→‎Crefydd: Beibl 1588, anghydffurfiaeth
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 32:
{{prif|Diwylliant Cymru}}
=== Crefydd ===
Credoau a [[mytholeg Gymreig|mytholeg]] yr hen Geltiaid oedd crefydd y Cymry boreuaf. Cafodd Gymru ei [[Cristnogaeth yng Nghymru|Gristioneiddio]] yn gynnar yn hanes y genedl Gymreig. Ymledodd y ffydd o'r [[De Ddwyrain Cymru|de ddwyrain]], adeg y goncwest Rufeinig. Er i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig arwain at ddyfodiad i [[paganiaeth|baganiaeth]] mewn rhannu eraill Ewrop, goroesodd Gristnogaeth yng Nghymru trwy [[Oes y Seintiau yng Nghymru|Oes y Seintiau]], o'r 5g i'r 8g. Adeiladwyd y Gymru Gristnogol ar seiliau'r hen grefydd: newidiwyd [[maen hir|meini hirion]] yn groesau, cysegrwyd ffynhonnau a chysegroedd paganaidd i ffigurau Cristnogol, a chodwyd mannau addoli ar safleoedd [[cylch cerrig|cylchoedd cerrig]]. Datblygodd grefydd oedd yn unigryw i'r Cymry, drwy drefn y [[clas]] a'r [[llan]] a'r mwyafrif o eglwysi yn gysylltiedig â seintiau lleol neu genedlaethol.
 
O [[Y Normaniaid yng Nghymru|oresgyniadau'r Normaniaid]] yn y de, trwy'r [[Y Goncwest Edwardaidd|goncwest Edwardaidd]] hyd at [[Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542|Ddeddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru (1536 a 1542)]], cafodd yr eglwys yng Nghymru ei seisnigo'n fwyfwy a'i gwneud yn ddarostyngedig i angenion y Goron a'r pendefigion yn Lloegr, yn ogystal â'r bonedd Eingl-Gymreig. Cyfnod o adnewyddiad a chadarnhâd oedd yr 16g i'r rhan helaethaf o'r Gristionogaeth, adeg [[y Diwygiad Protestannaidd]] a'r [[Gwrth-Ddiwygiad]]. Er gwaethaf, noda crefydd yng Nghymru yn ystod [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|oes y Tuduriaid]] gan ddirywiad yr urddau mynachaidd, cau'r mynachlogydd a'r [[siantri|siantrïau]], a phwyslais ar weinyddiaeth ymhlith yr offeiriadaeth yn hytrach na diwinyddiaeth. O ganlyniad i sawl reswm, ni chyrhaeddodd Gymru wir ddylanwad y Diwygiad tan y 18g.<ref>John I. Morgans a Peter C. Noble, ''Our Holy Ground: The Welsh Christian Experience'' (Talybont: Y Lolfa, 2016), t. 58.</ref> Yn swyddogol, cafodd y boblogaeth ei droi'n [[Protestaniaeth|Brotestaniaeth]] ac yn rhan o [[Eglwys Loegr]]. Newidiwyd iaith y [[litwrgi]] o Ladin, iaith estron ond cyfarwydd, i'r Saesneg, iaith anhysbys y gorchfygwr. Credai nifer o Gymry eu bod yn cael eu troi'n [[heretic]]iaid drwy eu gorfodi i ddilyn "Ffydd y Saeson".<ref>Morgans a Noble, ''Our Holy Ground'' (2016), t. 65.</ref> Y rhodd fwyaf i'r genedl Gymreig yn y cyfnod, yn nhermau ieithyddol a diwylliannol yn ogystal â chrefyddol, oedd [[Beibl 1588|y Beibl Cymraeg]] cyntaf a gyhoeddwyd gan yr Esgob [[William Morgan (esgob)|William Morgan]] ym 1588. Erbyn 1603, roedd y mwyafrif helaeth o Gymry yn mynychu gwasanaethau Anglicanaidd.
 
Yn yr 17g, trodd nifer o Gymry at enwadau a mudiadau newydd, gan gynnwys y [[Bedyddwyr]], y [[Brygowthwyr]], y [[Piwritan]]iaid, a'r [[Crynwriaeth yng Nghymru|Crynwyr]]. Cafodd nifer o arferion y Piwritaniaid effaith barhaol ar grefydd y Cymry: addoli yn y tŷ, myfyrdod unigol, moeseg waith gryf, a [[sabathyddiaeth]]. O ganlyniad i'r newidiadau yn y ffydd sefydledig trwy gydol y ganrif, bu'n rhaid i rai Cristnogion ffoi i osgoi erledigaeth. Ymfudodd nifer o Grynwyr Cymreig i [[Pensylfania|Bensylfania]] yn sgil Deddf y Crynwyr 1662. Daeth y Ddeddf Goddefiad i rym ym 1689, gan alluogi enwadau ar wahân i Eglwys Loegr i godi mannau addoli. Ffynodd [[anghydffurfiaeth yng Nghymru]] yn ystod y ddwy ganrif olynol, gan greu traddodiad cryf a gafodd ddylanwad sylweddol ar y genedl Gymreig. Y Cymry oedd y genedl gyntaf i greu dosbarth gweithiol llythrennog, a hynny drwy ymgyrchoedd gan garfanau Cristnogol megis [[yr Ymddiriedolaeth Gymreig]], y [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]], a'r [[Ysgolion Cylchynol Cymreig]].<ref>Morgans a Noble, ''Our Holy Ground'' (2016), t. 91.</ref> Erbyn 1851, dim ond 9% o Gymry oedd yn mynychu eglwys y plwyf yn rheolaidd. Cyfrifid 25% o'r boblogaeth yn [[Methodistiaeth Galfinaidd Cymru|Fethodistiaid Calfinaidd]], 23% yn [[Annibynwyr]], 21% yn Anglicaniaid, 18% yn Fedyddwyr, a 13% yn [[Methodistiaid Wesleaidd|Wesleaid]].<ref>Morgans a Noble, ''Our Holy Ground'' (2016), tt. 110–111.</ref>
Yn yr 20g, bu gostyngiad syfrdanol yn y nifer o eglwyswyr a chapelwyr yng Nghymru. Trafodai sawl hanesydd yr olwg o Gymru "ôl-Gristnogol", a'r posibilrwydd o'r traddodiad anghydffurfiol yn diflannu'n gyfan gwbl.<ref>John I. Morgans a Peter C. Noble, ''Our Holy Ground: The Welsh Christian Experience'' (Talybont: Y Lolfa, 2016), t. 175.</ref><ref>D. Gareth Evans, ''A History of Wales 1906–2000'' (Caerdydd, 2000), t. 281.</ref> Noda [[Glanmor Williams]] taw dyma'r tro cyntaf ers y 6g neu'r 7g i'r mwyafrif o drigolion Cymru beidio ag ystyried y ffydd Gristnogol yn elfen hanfodol o'u Cymreictod.<ref>Glanmor Williams, ''The Welsh and Their Religion'' (Caerdydd, 1991) tt. 69–72.</ref>
 
Yn yr 20g, bu gostyngiad syfrdanol yn y nifer o eglwyswyr a chapelwyr yng Nghymru. Trafodai sawl hanesydd yr olwg o Gymru "ôl-Gristnogol", a'r posibilrwydd o'r traddodiad anghydffurfiol yn diflannu'n gyfan gwbl.<ref>John I. Morgans a Peter C. Noble, ''Our Holy Ground: The Welsh Christian Experience'' (Talybont: Y Lolfa, 2016), t. 175.</ref><ref>D. Gareth Evans, ''A History of Wales 1906–2000'' (Caerdydd, 2000), t. 281.</ref> Noda [[Glanmor Williams]] taw dyma'r tro cyntaf ers y 6g neu'r 7g i'r mwyafrif o drigolion Cymru beidio ag ystyried y ffydd Gristnogol yn elfen hanfodol o'u Cymreictod.<ref>Glanmor Williams, ''The Welsh and Their Religion'' (Caerdydd, 1991) tt. 69–72.</ref>
 
== Gweler hefyd ==