Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
manion; cat |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:M.L.Williams Lady-of-the-Van-Lake.JPG|bawd|200px|Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Llun gan M.L.Williams.]]
Defnyddir yr enw '''Tylwyth Teg''', weithiau '''Bendith y Mamau''' yn
▲''Mae [[Eglwys y Tylwyth Teg]] yn America ar dudalen arall.''
Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r [[y Celtiaid|Celtiaid]]. Yn
▲Defnyddir yr enw '''Tylwyth Teg''', weithiau '''Bendith y Mamau''' yn y de, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn [[chwedloniaeth]] a [[llên gwerin]] llawer gwlad, er enghraifft ''banshee'' yn [[Iwerddon]], ''brownies'' yn [[yr Alban]], ''fairies'' ac ''elves'' yn [[Lloegr]], ''fee'' yn [[Ffrainc]].
▲Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r [[y Celtiaid|Celtiaid]]. Yn ôl y fersiwn Gymraeg, [[Gwyn ap Nudd]] oedd eu brenin. Cysylltir hwy yn aml â llynnoedd; dywedid hefyd bod [[criafolen|criafol]] yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi [[haearn]]. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru; casglwyd llawer o'r rhain gan Syr [[John Rhŷs]], [[Owen Wynne Jones (Glasynys)]] ac eraill. Ceir nifer o themâu yn y chwedlau hyn; un yw bod y Tylwyth Teg yn cyfnewid babanod dynol am eu babanod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld â gwlad y Tylwyth Teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ac nad oes neb yn ei adnabod bellach.
Chwedl a gysylltir â nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi un o ferched y Tylwyth Teg, ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo â [[haearn]]. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Mae sawl fersiwn o'r chwedl hon yn gysylltiedig â llynnoedd, megis [[Llyn y Fan Fach]] yn [[Sir Gaerfyrddin]] a [[Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu|Llyn y Dywarchen]], [[Rhyd Ddu]]. Gallai'r Tylwyth Teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.
Llinell 11 ⟶ 10:
Mae'r gwaharddiad ar haearn (a [[halen]] hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith bod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan [[cromlech|siambrau claddu]] a [[gorsedd]]au (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu bod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd [[Oes y Cerrig]].
==Llyfryddiaeth==
Llinell 18 ⟶ 17:
*Owen Wynne Jones: ''Straeon Glasynys'', gol. Saunders Lewis (Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
[[Categori:Creaduriaid mytholegol]]
[[Categori:Llên gwerin]]
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]
|