Rhyfeloedd Napoleon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Rhoddir yr enw '''Rhyfeloedd Napoleon''' ar gyfres o ryfeloedd yn Ewrop rhwng [[1804]] a [[1815]]. Ymladdwyd y rhyfeloedd rhwng [[Ffrainc]] dan [[Napoleon]] a nifer o wledydd, yn cynnwys [[Prydain]], [[Rwsia]], [[Awstria]], [[Prwsia]], [[Sbaen]] ac eraill a ffurfiodd sawl cynghrair gwahanol yn erbyn Napoleon.
 
Ffurfiwyd y Cynghrair Cyntaf ([[1792]]-[[1797]]) rhwng Awstria, Prwsia, Prydain, Sbaen a'r [[Iseldiroedd]] yn y cyfnod ar ôl [[y Chwyldro Ffrengig]] a chyn i Napoleon ddod i rym. Roedd y cyngheiriaid yn gobeithio dinistrio'r drefn weriniaethol yn Ffrainc, ond ni chawsant lwyddiant. Daeth Napoleon i amlygrwydd yn ystod [[Gwarchae Toulon]] yn [[1793]], a daeth yn rheolwr Ffrainc yn [[1796]].
 
Ffurfiwyd yr Ail Gynghrair ([[1798]]-[[1801]]) gan Rwsia, Prydain, Awstria, [[yr Ymerodraeth Ottoman]] ac eraill. Ni lwyddodd ymosodiadau'r cynghrair ar Fffrainc ei hyn. Ymosododd Napoleon ar [[yr Aifft]] yn [[1798]], a gyrrwyd byddin Ffrengig fechan i [[Iwerddon]] yr un flwyddyn, ond methodd y ddwy ymgyrch. Gwnaed cytundeb [[Heddwch Amiens]] rhwng Ffrainc a Phrydain yn [[1802]], ond ail-ddechreuodd yr ymladd ar [[18 Mai]] [[1803]]. Coronwyd Napoleon yn Ymerawdwr Ffrainc ar [[2 Rhagfyr]] [[1804]].