Rhyfeloedd Napoleon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 12:
 
Roedd y Pumed Cynghrair ([[1809]]) rhwng Prydain ac Awstria. Gorchfygwyd Awstria ym [[Brwydr Wagram|Mrwydr Wagram]] ym mis Gorffennaf, a gorfodwyd hi i gytuno i heddwch a Napoleon. Cythaeddodd ymerodraeth Napoleon ei maint mwyaf yn [[1810]].
 
[[Delwedd:Sadler, Battle of Waterloo.jpg|bawd|300px|Brwydr Waterloo]]
 
Ffurfiwyd y Chweched Cynghrair rhwng Rwsia, Prydain, Prwsia, Sweden, Awstria a nifer o wladwriaethau bychain [[yr Almaen]], gyda'r [[Unol Daleithiau]] yn awr yn cefnogi Ffrainc. Ymosododd Napoleon ar Rwsia gyda'r ''Grande Armée'', yn cynnwys tua 600,000 o filwyr, dim ond 270,000 ohonynt yn Ffrancwyr. Ar [[7 Medi]] ymladdwyd [[Brwydr Borodino]] rhwng Ffrainc a Rwsia, gyda colledion trwm ar y ddwy ochr. Meddiannwyd [[Moscow]] gan y Ffrancwyr, ond rhoddwyd y ddinas ar dân. Bu raid i Napoleon encilio, a rhwng y tywydd ac ymosodiadau'r Rwsiaid, collodd bron y cyfan o'i fyddin; dim ond tua 30,000 o filwyr a groesodd [[afon Berezina]] i adael Rwsia.
 
[[Delwedd:Sadler, Battle of Waterloo.jpg|bawd|chwith|300px|Brwydr Waterloo]]
 
Enillodd [[Dug Wellington|Arthur Wellesley]], yn ddiweddarach Dug Wellington, fuddugoliaethau dros y Ffrancwyr yn Sbaen. Ym [[Brwydr Leipzig|Mrwydr Leipzig]] ar 16-19 Hydref [[1813]], gorchfygwyd Napoleon gan fyddin fawr o Rwsiaid, Prwsiaid ac eraill. Gorfodwyd ef i ildio ar [[6 Ebrill]] [[1814]], wedi i'r cyngheiriad feddiannnu Paris. Gyrrwyd ef i [[Ynys Elba]].