Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iaith ddadelfennol"

Ychwanegwyd 1 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
*Ond mae gan y gair ''gwyddoniaethau'' dri morffem (''gwyddon-, iaeth, -au'') ac felly mae gan y gair hwn 3:1 mpw.
 
Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gydagydag mpw sydd yn hafal i un yn ieithoedd ynysig, ac yr ieithoedd i gyd gydag mpw yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel [[Saesneg]] a [[Norwyeg]] yn [[iaith synthetig|ieithoedd synthetig]] ond ar yr ochr analytig gan fod eu mpw yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel [[Rwsieg]] a [[Lithwaniaidd]] ar yr ochr synthetig gan fod mpw uchel iawn ganddynt.
 
Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel [[Fietnameg]], [[Thaieg]] a [[Tseinaeg|Thseinaeg]] yn dueddol o fod yn ynysig. Yn [[Tseinaeg|Nhseinaeg]] dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir [[ffurfdroadau]] i fynegi [[cyflwr gramadegol|cyflwr]] neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y [[cyflwr gramadegol|goddrych a gwrthrych]]:
2,093

golygiad