Rhyfeloedd Napoleon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ffurfiwyd y Cynghrair Cyntaf ([[1792]]-[[1797]]) rhwng Awstria, Prwsia, Prydain, Sbaen a'r [[Iseldiroedd]] yn y cyfnod ar ôl [[y Chwyldro Ffrengig]] a chyn i Napoleon ddod i rym. Roedd y cyngheiriaid yn gobeithio dinistrio'r drefn weriniaethol yn Ffrainc, ond ni chawsant lwyddiant. Daeth Napoleon i amlygrwydd yn ystod [[Gwarchae Toulon]] yn [[1793]], a daeth yn rheolwr Ffrainc yn [[1796]].
 
Ffurfiwyd yr Ail Gynghrair ([[1798]]-[[1801]]) gan Rwsia, Prydain, Awstria, [[yr Ymerodraeth Ottoman]] ac eraill. Ni lwyddodd ymosodiadau'r cynghrair ar Fffrainc ei hynhun. Ymosododd Napoleon ar [[yr Aifft]] yn [[1798]], a gyrrwyd byddin Ffrengig fechan i [[Iwerddon]] yr un flwyddyn, ond methodd y ddwy ymgyrch. Gwnaed cytundeb [[Heddwch Amiens]] rhwng Ffrainc a Phrydain yn [[1802]], ond ail-ddechreuodd yr ymladd ar [[18 Mai]] [[1803]]. Coronwyd Napoleon yn Ymerawdwr Ffrainc ar [[2 Rhagfyr]] [[1804]].
 
Crewyd y Trydydd Cynghrair ([[1805]]) gan Awstria, Prydain, Rwsia a [[Sweden]]. Dechreuodd Napoleon gynllunio ymosodiad ar Loegr, a chasglwyd 150,000 o filwyr yn [[Boulogne-sur-Mer|Boulogne]] yn barod ar hynny, ond ni allwyd gweithredu ar hyn. Gorchfygwyd y llynges Ffrengig gan y llynges Brydeinig dan [[Horatio Nelson]] ym [[Brwydr Trafalgar|Mrwydr Trafalgar]] ar [[21 Hydref]]. Ar [[2 Rhagfyr]], enilodd Napoleon fuddugoliaeth dros Rwsia ac Awstria ym [[Brwydr Austerlitz|Mrwydr Austerlitz]].