Cymraeg ysgrifenedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B ma^n frycheiau
→‎Yr orgraff gyfoes: ma^n frycheiau
Llinell 25:
 
===Yr orgraff gyfoes===
Ceir 28 llythyren yn [[yr wyddor Gymraeg]] draddodiadol a'r llythyren J mewn geiriau benthyg.

Defnyddir arwyddnodau ychwanegol wrth ysgrifennu geiriau fel a ganlyn:
 
*hirnod (neu acen grom) '''ˆ''' ar lafariad i ddynodi llafariad hir ei sain, o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys defnyddio'r hirnod:
**i wahaniaethu rhwng geiriau â'r un sillafiad megis '''ôd/od''', '''tŵr/twr''', '''nâd/nad''', '''(tŷ)dŷ/dy''', '''gŵyr/gwŷr'''.
**ar '''a''', '''e''', '''o''', '''w''', '''y''' hir o flaen '''l''', '''n''', '''r''' megis yn '''pêl''', '''ôl''', '''ynglŷn''', '''cytûn'''.
**o flaen '''–nt''' unsillafog lle bo'r llafariad yn hir megis '''gwnânt''', '''bônt''', a'r un modd o flaen '''–nt''' neu '''–m''' mewn sillaf olaf acennog megis '''nesânt''', '''canfûm'''.
**i ddynodi llafariad hir mewn sill olaf acennog megis '''iachâd''', '''caniatâ'''.
**ar '''w''' hir acennog yn '''pŵer''', '''ymhŵedd''', '''sŵoleg'''.
*didolnod '''ï''' i ddynodi '''i''' acennog megis yn '''copïo''', '''cwmnïau''', '''saernïaeth''', rhag ei chamgymryd am '''i''' gytseiniol. Ceir eithriadau i'r rheol hon ymysg rhai geiriau dwy sillaf megis '''dianc''', '''diod''', '''priod'''. Defnyddir y didolnod ˙˙ hefyd pan ddilyn dwy lafariad ei gilydd i ddangos nad deusain ydynt megis yn '''glöyn''', '''gloÿnnod''', '''glanhawr''', '''tröedigaeth'''. Ar y llafariad acennog y dodir y didolnod neu ar y llafariad gyntaf pan nad oes gwahaniaeth acen rhwng y ddwy lafariad.
Defnyddir y didolnod ˙˙ hefyd pan ddilyn dwy lafariad ei gilydd i ddangos nad deusain ydynt megis yn '''glöyn''', '''gloÿnnod''', '''glanhawr''', '''tröedigaeth'''. Ar y llafariad acennog y dodir y didolnod neu ar y llafariad gyntaf pan nad oes gwahaniaeth acen rhwng y ddwy lafariad.
*acen ddyrchafedig '''΄''' yn gyffredinol i ddynodi lle'r acen pan ddisgyn ar fan anarferol gan gynnwys:
**ar lafariad fer acennog mewn sill olaf acennog neu pan ddigwydd amwyster megis '''ffárwel''', '''ffarwél'''.
Llinell 45 ⟶ 46:
*collnod ' i ddynodi llythyren, sillaf neu air cyfan goll megis yn '''o'r''', '''colli'ch''', '''pleidleisio'n''', ''''nawr''', '''i'w''' mewn Cymraeg ffurfiol ac anffurfiol ac '''ata'i''', '''gwela'''', '''canan' nhw''', '''be'''', ''''steddfod''', ''''lly''' mewn Cymraeg anffurfiol.
 
Dylid nodiNodir nad oes cytundeb llwyr ynglŷn â'r rheolau uchod. Ni nodwyd rhai o'r rheolau nas arferir yn gyffredinol heddiw.
 
 
==Llyfryddiaeth==
 
*''Orgraff yr Iaith Gymraeg Rhan I a II'', gol. Ceri W Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987 a 1989)
 
==Ffynonellau==