Nemesis (mytholeg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Nemesis Getty Villa 96.AA.43.jpg|250px|bawd|Nemesis adeiniog yn dal Olwyn Ffawd: cerflun Rhufeinig, o tua 150 OC.]]
:''Gweler hefyd [[Nemesis (gwahaniaethu)]].
Ym [[mytholeg Roeg]], [[duwies]] sy'n cosbi balchder a thraha yw '''Nemesis'''. Mae hi'n cynrychioli math o ddial dwyfol neu adsefydlu'r drefn naturiol ar ôl iddi gael ei gwrthdroi gan lwc da eithriadol. Yn ôl yr awdur Groeg [[Hesiod]], mae hi'n ferch i'r dduwies [[Nyx|Nos]] a adawodd y ddaear, gyda [[Aidos]], duwies Gwyleidd-dra, ar ddiwedd yr [[Oes Aur]].
 
Roedd ei chwlt yn arbennig o gryf yn ardal [[Rhamnus]] yn [[Attica]], ac fe'i gelwir weithiau "y dduwies Rhamnusiaidd" o'r herwydd. Yn Rhamnus credid ei bod yn ferch i [[Okeanos]], duw'r môr. Dywedir y cerfiodd yr arlunydd enwog [[Phidias]] gerflun ohoni allan o ddarn o farmor roedd y [[Ymerodraeth Persia|Persiaid]] wedi dwyn i faes [[Marathon]] i godi allor i'w buddugoliaeth ddisgwyliedig: ond y Groegiaid a enillodd y dydd felly priodol oedd gwneud cerflun o Nemesis gyda'r garreg a'i osod yn ei theml yn Rhamnus.