Porthmon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
mm oes. Diolch Anatiomaros, ond roedd y porthmon yn gyrru anifeiliaid eraill. Mae lle i'r ddwy mi gredaf.
Llinell 3:
Defnyddir y gair '''Porthmon''' am rywun sy'n gyrru anifeiliaid dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y [[18fed ganrif]] yn arbennig. [[Buwch|Gwartheg]] oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai [[Dafad|defaid]] a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.
 
Ceir cofnod o borthmyn yn gyrru [[Buwch|gyrru gwartheg]] o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r [[14eg ganrif]], ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y [[18fed ganrif]]. [[Llundain]] oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd [[Smithfield]] ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.
 
Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth ladron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd [[Banc yr Eidion Du]] yn [[Llanymddyfri]] gan borthmon o'r enw David Jones yn [[1799]]. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn [[1909]]. Sefydlwyd [[Banc y Ddafad Ddu]] gan borthmyn defaid [[Tregaron]] ac [[Aberystwyth]] yn gynnar yn y [[19eg ganrif]].