Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cymraeg ysgrifenedig"

Ychwanegwyd 6 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
B
iaith wici
(→‎Yr orgraff gyfoes: ma^n frycheiau)
B (iaith wici)
Aethpwyd ati i '''ysgrifennu [[Cymraeg]]''' yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn eglwys [[Tywyn]] y ceir y geiriau [[Cymraeg]] cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700 <ref name=DatblygiadyrIaithGymraeg > Henry Lewis, ''Datblygiad yr Iaith Gymraeg'' (Prifysgol Cymru, 1931) </ref>
 
<ref name= OrgraffyrIaithGymraeg > ''Orgraff yr Iaith Gymraeg'', 1928, Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru </ref> Dechreuwyd ar safoni’r iaith ysgrifenedig gan y beirdd. Roedd y rhain yn teithio o [[llys|lys]] i lys trwy ardaloedd â thafodieithoedd amrywiol ynddynt ac yn cwrdd â’i gilydd mewn [[eisteddfod|eisteddfodau]]. Ceisient ddefnyddio geiriau cyffredin i’r holl dafodieithoedd fel bod eu gwaith yn ddealladwy gan bawb. Erbyn adeg beirdd yr Oesoedd Canol gellir dweud bod gan y Gymraeg iaith lenyddol safonol o ran geirfa.
9,149

golygiad