Iaith ddadelfennol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
==Dosbarthu ieithoedd==
[[Delwedd:Graddfa dosbarthiad ieithoedd.png|bawd|360px|Graddfa ieithoedd synthetig ac analytig. Dim ond yr ieithoedd ag 1 mpw sydd yn ynysig.]]
Yn draddodiadol dosberthir ieithoedd fel naill ai analytig neu synthetig. Gwnëir hyn drwy roi mesuraid [[morffem]]-y-gair (mpw or [[Saesneg]] ''morpheme-per-word'') ar iaith. Hynny yw, mae ieithoedd analytig yn dueddol o gael un [[morffem]] i bob gair. Mae unrhyw iaith sydd â mpw yn fwy nag 1 yn [[iaith synthetig]]. Dangosir [[morffem|morffemau]] isod:
 
*Yn y gair Cymraeg ''merch'' dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair hwn 1:1 [[morffem|mpw]].
 
*Ond mae gan y gair ''gwyddoniaethau'' dri morffem (''gwyddon-, iaeth, -au'') ac felly mae gan y gair hwn 3:1 [[morffem|mpw]].
 
Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gydag [[morffem|mpw]] sydd yn hafal i un yn ieithoedd ynysig, ac yr ieithoedd i gyd gydag [[morffem|mpw]] yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel [[Saesneg]] a [[Norwyeg]] yn [[iaith synthetig|ieithoedd synthetig]] ond ar yr ochr analytig gan fod eu [[morffem|mpw]] yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel [[Rwsieg]] a [[Lithwaniaidd]] ar yr ochr synthetig gan fod [[morffem|mpw]] uchel iawn ganddynt.
 
Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel [[Fietnameg]], [[Thaieg]] a [[Tseinaeg|Thseinaeg]] yn dueddol o fod yn ynysig. Yn [[Tseinaeg|Nhseinaeg]] dim ond un [[morffem]] sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir [[ffurfdroadau]] i fynegi [[cyflwr gramadegol|cyflwr]] neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a [[geiryn|geirynnau]]. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y [[cyflwr gramadegol|goddrych a gwrthrych]]:
 
:{| class="wikitable" style="text-align: center;"
Llinell 28:
 
==Ieithoedd Analytig==
Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau mae'r term ''analytig'' yn gyfwerth â'r term ''ynysig'' felly mae iaith ynysig hefyd yn analytig. Ond nid yw ieithoedd fel [[Saesneg]] sydd ar ochr analytig y raddfa yn ynysig gan eu bod yn defnyddio ychydig o [[morffoleg|forffoleg]] i ddangos amser ar ferfau a'r lluosog ar enwau. Felly mae gan Saesneg [[morffem|mpw]] sydd yn uwch nag un ac felly'n [[iaith synthetig|synthetig]]. Serch hyn mae [[Saesneg]] yn dangos tueddau ynysig yn ei defnydd eang o [[geiryn|eirynnau]].
 
==Gweler hefyd==