Iaith synthetig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Iaith sythetig''' yw [[iaith]] gyda chymhareb [[morffem]]-y-[[gair]] ucel.
Iaith sy'n mynegi nifer o nodweddion gramadegol mewn un terfyniad yw '''iaith synthetig'''. Mae'r [[Lladin]] a'r [[Rwsieg]] yn enghreifftiau da o ieithoedd synthetig. Mewn iaith synthetig, bydd un terfyniad (neu [[dodiad|ddodiad]]) yn cyfleu mwy nag un ystyr.
 
==Ieithoedd synthetig ac analytig==
{{eginyn iaith}}
Gwrthgyferbynnir ieithoedd synthetig yn aml gydag [[iaith analytig|ieithoedd analytig]]. Mae hi'n fwy gywir i dybio ieithoedd yn bodoli ar raddfa, gydag [[iaith analytig|ieithoedd ynysig]] union (gydag un morrfem-y-gair) ar un ochr a'r [[iaith bolysynthetig|ieithoedd polysynthetig]] (lle gall un gair gynnwys gwybodaeth brawddeg gyfan yn [[Cymraeg|Gymraeg]]) ar yr ochr arall. Tueddir ieithoedd synthetig fod rhywle ynghanol y raddfa hon.
 
==Enghreifftiau==
Mae yna nifer o ieithoedd synthetig yn y byd ac mae'r mwyaf cyffredin ohonynt yn [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] fel [[Groeg (iaith)|Groeg]], [[Lladin]], [[Almaeneg]], [[Sbaeneg]], [[Rwsieg]], [[Tsieceg]] yn ogystal â nifer o ieithoedd cynfrodorol America fel [[Navajo (iaith)|Navajo]], [[Nahuatl]], [[Mohawk (iaith)|Mohawk]] a [[Quecha (iaith)|Quecha]].
 
==Ffurfiau==
Mae yna sawl ffordd y gall iaith fod yn synthetig.
 
===Deilliol===
Yma unir wahanol fathau o [[morffem|forffemau]] (enwau, berfau, ayyb.) i greu geiriau newydd. Er enghraifft:
 
:[[Almaeneg]]: ''Aufsichtsratsmitgliederversammlung'' => "Ar-golygfa-cyngor-gyda-aelodau-yn casglu" sy'n golygu "cyfarfod aelodau y bwrdd goruchwylio".
:[[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''υπερχοληστερολαίμια'' => "droslawer/colesterol-uchel-gwaed+-ia(ffurfdro)" sy'n golygu "[[hypercholesterolemia]]"
:[[Poleg]]: ''przystanek'' => "ar-ochr-sefyll-bach" sy'n golygu "arhosfa bysiau".
:[[Saesneg]]: ''antidisestablishmentarianism'' => "yn-erbyn-gorffen-sefydliadu-cyflwr-argymell-syniadaeth".
:[[Rwsieg]]: ''спасибо'' => "Gwna Dduw dy achub" sy'n golygu "diolch".
 
===Perthnasol===
Yma unir gwraidd gair gyda morffemau rhwymedig i ddangos swyddogaeth ramadegol:
 
:[[Eidaleg]]: ''comunicandovele'' => "eich cyfathrebu-rheini(benywaidd, lluosog)" sy'n golygu "(wrth) eu cyfathrebu (benywaidd, lluosog) i chi"
:[[Sbaeneg]]: ''escribiéndomelo'' => "ysgrifennu-ef-fi" sy'n golygu "(wrth)) ei ysgrifennu i mi"
:[[Nahuatl]]: ''ocaltizquiya'' => "yn barod-(hi)-ef-trochu-basai" sy'n golygu "basai hi wedi'i drochu"
:[[Ffinneg]]: ''juoksentelisinkohan'' => "rhedeg-mudiad cyflym-dibynnol-fi-cwestiwn-achosol" sy'n golygu "Sgon i os dylwn i redeg o gwmpas (heb reswm)."
 
==Gweler hefyd==
*[[Iaith analytig]]
*[[Iaith bolysynthetig]]
*[[Iaith ymasiadol]]
*[[Cyflwr gramadegol]]
 
[[Categori:Morffoleg ieithyddol]]