Llyfr Coch Hergest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Hergest
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
[[Llawysgrif]] hynafol yn yr iaith [[Cymraeg|Gymraeg]], a ysgrifennwyd tua [[1382]]-[[1410]], yw '''Llyfr Coch Hergest'''. Mae’n un o brif ffynonellau ar gyfer chwedlau'r [[Mabinogi]] a cheir ynddi ogystal sawl testun [[rhyddiaith Cymraeg Canol]] arall ac adran bwysig o gerddi. Fe'i cysylltir â'r noddwr [[Hopcyn ap Tomas]] ar ddechrau'r [[15fed ganrif]].
 
Daw’r enw am ei bod wedi ei rwymo mewn lledr coch, a’i gysylltiad gyda Phlas [[Hergest (plas)|Hergest]] yn [[Swydd Henffordd]]. Ymddengys iddo ddod i feddiant John Vaughan o Dretŵr yn 1465 ac iddo fynd oddi yno i Hergest. Bu ym meddiant y teulu hyd ddechrau'r 17eg ganrif a dyna pam y cafodd yr enw. Fe roddwyd y llyfr gan y Parch. Thomas Wilkins i [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Goleg Yr Iesu, Rhydychen]] yn [[1701]], ac mae ar gadw yn [[Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen]].
 
==Cynnwys==