Reykjanesskagi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
 
'''Penrhyn y De''' ([[Islandeg]]: Suðurnes) '''Reykjanesskagi''' (ynganner [[IPA]]: ˈreiːcanɛsˌskaiːjɪ) neu 'Penrhyn Reykjanes' yw'r enw ar ranbarth yn ne-orllewin [[Gwlad yr Iâ]]. Fe'i henwir ar ôl [[Reykjanes]], pegwn dde orllewinnol penrhyn fawr Reykjanesskagi.
 
Mae gan y rhanbarth boblogaeth o rhyw 22,000 ac mae'n un o ardaloedd dwysaf ei phoblogaeth ar yr ynys. Y ganolfan weinyddol yw [[Keflavík]], oedd â phoblogaeth o 7,000 cyn iddi ymuno gyda thref [[Njarðvík]] gyfagos rhai blynyddoedd yn ôl i greu [[Reykjanesbær]]. Dyma bellach yw'r ail anneddle fwyaf ar yr ynys y tu allan i ardal [[Reykjavík Fawr]]. Ar 1 Ionawr 2013 ei phoblogaeth oedd 14,231. Tref arall o bwys yw [[Grindavík]].
 
Mae'r rhanbarth yn cynnwys prif fynedfa tramorwyr i'r ynys, [[Maes Awyr Keflavík]] a hefyd canoflan iechyd ac ymdrochi dŵr mwynol, [[Y Morlyn Las (Blue Lagoon)|y Morlyn Las]].