Reykjanesskagi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
Ceir sawl [[llosgfynydd]] sy'n fyw o ran y wyneb a meysydd [[lafa]] sylweddol, gan achosi prinder o dir glas. Mae '''Llosgfynydd Reykjanes''' yn ymestyn ar draws penrhyn [[Reykjanes]], lle mae Crib Canol yr Iwerydd (Mid-Atlantic Ridge) yn codi uwch ben lefel y môr. Mae'r system llosgfynyddol yn cynnwys meysydd lafa, rhesi crateri ôl-rhewlifol [[basalt]], a llosgfynyddoedd bychain. Lleolir hefyd sawl ffynnon boeth a [[swlffwr]] ar ochr ddheuol y penrhyn o gwmpas llyn Kleifarvatn ac ardal geothermal Krýsuvík.
 
Lleolir [[Gorsaf Ynni Svartsengi]] ar y penrhyn - gorsaf ynni geothermal. Ger yr orsaf, a gan ddefnyddio dŵr 'gwastaff' ohono, ceir y ''Bláa Lónið'' , y [[Y Morlyn Las|Lagŵn Glas], (Blue Lagoon yn Saesneg).
 
Mae'r 'Bont sy'n cysylltu Cyfandiroedd' yn pontio dyffryn hollt yr Álfagjá sydd (20 metr o led a 6.1m dwfn) ger [[Grindavík]], ac sy'n nodi'r ffin rhwng platiau tectonaidd [[Ewrasia]] a [[Gogledd America]]. Fe'i hadeiladwyd yn 2002 a'r enw flaenorol oedd 'Pont Leif Lwcus' ar ôl y danganfyddwr, [[Leif Eriksson]], a wladychodd Gogledd America ganrifoedd cyn Columbus.