Model: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''model''' yn berson sy'n gosod ei hun neu'n arddangos ei hun er mwyn [[celf]], [[ffasiwn]] neu [[hysbysebu]] a chynhyrchion eraill. Nid yw na oed na rhyw yn ffactor hollbwysig - gall model fod yn ddyn neu ddynes neu blentyn - ond ceir mwy o fodelau benywaidd ifanc.
 
[[Delwedd:GiseleAna Bundchen4Beatriz Barros by David Shankbone.jpg|thumb|right|Model benywaidd yn arddangos dillad]]
 
Serch hynny, nid yw'r ffin bob amser yn gwbl glir o ran meysydd fel [[drama|actio]], [[dawns]]io neu feimio. Yn gyffredinol, nid yw ymddangos mewn [[ffilm]] yn cael ei ystyried yn fodelu, waeth beth yw'r rôl ei hun. Fodd bynnag, disgwylir i fodelau arddangos emosiwn yn eu ffotograffau ac mae nifer o fodelu wedi disgrifio'u hunain fel actorion.