Geg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Cyffredinol using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Albanian dialects.svg|thumbbawd|Tafodieithoedd Albaneg, Geg mewn gwyrdd]]
 
Tafodiaeth o'r iaith [[Albaneg]] yw '''Geg''' (Saesneg: ''Gheg'' yn Saesneg; Geg: ''gegnisht''; Alabaneg Safonol: ''gegë'' neu ''gegërishtja''). Siaredir hi yng ngogledd [[Albania]], [[Cosofo]], [[Gweriniaeth Macedonia]] a [[Montenegro]]. Yr afon Shkumbin yw ffin draddodiadol yr iaith. Y brif dafodiaeth arall yn yr iaith Albaneg, yw [[Tosc]] (''Tosk'') a siadedir i'r de o'r afon Shkumbin ac ar draws canol gwladwrieth Albania a nifer o chymunedau bychain Albaneg yn [[yr Eidal]] (yr [[Arberesh]]) ac [[Arfanitiaid]] yng [[ng|gwlad Groeg]]. Mae'r ffin ieithyddol yma yn dilyn hen lwybr y ffordd Rufeinig, y Via Egnatia a ceir tiriogaeth traws-dafodiaethol naill ochr i'r afon oddeutu 10km - 20km mewn lled. Ceir gwahaniaethau o fewn y dafodiaeth Geg yn enwedig rhwng tafodieithoedd Gogledd-orllewin Albania a Cosofo. Mae'r sefyllfa yn Macedonia hefyd yn wahanol iawn i hynny yn Albania a Cosofo. Mae'r Gegeg a'r Tosceg yn amrywio'n ffonolegol ac yn ramadegol.
Llinell 7:
==Hanes==
Cyn yr [[Ail Ryfel Byd]], nid oedd ymgais swyddogol llawn ar ddeddfu iaith lenyddol unedig Albaniaidd. Defnyddiwyd Geg llenyddol a Tosc llenyddol, er bod y Brenin Zog yn arddel ei dafodiaith frodorol ardal Mat, i'r gogledd o'r afon Shkumbin. Roedd tafodiaith Geg ardal [[Elbasan]] yn agos i'r ffin Tosc/Geg ac felly yn fan canol o ran contiwm tafodieithyddol yn opsiwn fel sail iaith lenyddol unedig. Er nad Elbasan oedd prifddinas y wladwriaeth newydd (enillodd Albania ei hannibyniaeth yn 1912) roedd iddi statws ddiwylliannol cydnabyddiedig. Yn ôl sawl un, gan gynnwys Dr Nick Nicholas mewn ateb arlein [https://www.quora.com/Why-is-standard-Albanian-language-based-on-the-Tosk-dialect-and-not-the-Gheg-dialect| pam ddewiswyd Tosc fel sail iaith safonol Albaneg] byddai Geg Elbasan wedi bod yn ddewis da fel sail iaith safonnol.
[[FileDelwedd:Albanian-dialects.svg|thumbbawd|400px|rightdde|Dosbarthiad tafodieithoedd yr iaith Albaneg]]
Gosododd gyfundrefn [[g|comiwnyddol]] [[Enver Hoxha]] yn Albania safon unedig ar iaith y wladwriaeth a oedd yn seiliedig ar dafodiaeth Tosc, ardal [[Korçë]], dinas yn ne ddwyrain y wlad. Yn 1968, mabwysiadwyd yr un safon gan yr Albaniaid yn Iwgoslafia, a oedd wedi defnyddio'r safon Geg tan hynny. Datblygwyd y broses o safoni iaith swyddogol yma gyda phenderfyniad yn 1972 pan gytunwyd ar y llawlyfr orthraffig a'r geiriadur gyntaf yr Albaneg safonol. Dyma'r safon a ddefnyddiwyd ers hynny yn Albania, Cosofo, Macedonia a'c ardaloedd eraill lle siaradir Albaneg.