Sefnyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BOTarate (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: en:Sefnyn |
B trwsio dolen |
||
Llinell 1:
Un o [[Beirdd yr Uchelwyr|Feirdd yr Uchelwyr]] a ganai yn ail hanner y 14eg ganrif oedd '''Sefnyn''' (bu farw yn y [[1380au]], efallai). Mae'n bur debygol ei fod yn frodor o [[Ynys Môn]] ac yn dad i'r bardd [[Gwilym ap Sefnyn]].
Ychydig a wyddys am Sefnyn ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun. Mae'r cerddi hynny, tair [[awdl]] i noddwyr o Fôn, yn anodd i'w dyddio. Ni wyddom pryd cafodd ei eni, ond ar sail un o'i awdlau credir iddo farw yn y 1380au. Mewn rhestr o feirdd canoloesol yn llaw [[William Salesbury]], a ysgrifenwyd tua 1574, dywedir fod Sefnyn "o [[Llanbabo|lan Pabo]] ym Môn". Gwyddys i Wilym ap Sefnyn ddal tir ym mhlwyf [[Llandyfrydog]] hefyd, ac mae hynny a'r ffaith fod tair awdl Sefnyn i bobl o Fôn yn awgrymu'n gryf ei fod yn frodor o'r ynys. Awgrymir gan gyfeiriad yn ei awdl i [[Goronwy ap Tudur Fychan]], un o Duduriaid Môn, ei fod wedi canu'r gerdd honno yn [[Arllechwedd Uchaf]].
Dim ond tair [[awdl]] o waith y bardd sydd wedi goroesi, ond gellir derbyn fod hynny'n ganran bychan iawn o'i waith a'i fod yn fardd o fri yn ei amser. Canodd ddwy awdl foliant, un i Angharad wraig Dafydd Fychan o Drehwfa a [[Trefeilir|Threfeilir]], a'r llall i [[Goronwy
Y brif ffynhonnell am waith Sefnyn yw'r adran farddoniaeth yn [[Llyfr Coch Hergest]]: mae pob testun diweddarach yn deillio o'r llawysgrif honno.
|