Marilyn Monroe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd , ym mis Ebrill → yn Ebrill , ym mis Mehefin → ym Mehefin (2), ym mis Medi → ym Medi (2), ym mis Rhagfyr → yn Rhagfyr (2), Ym mis Mawrth → Y using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Cyffredinol using AWB
Llinell 36:
=== Modeli a'i gwaith ffilm cynnar ===
 
[[Delwedd:MarilynMonroe-YANK1945.jpg|bawd|dde|Norma Jean Dougherty ar glawr cylchgrawn Yank]]Tra bod Dougherty yn y Llynges Fasnachol yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]], symudodd Monroe i fyw gyda'i mam-yng-nghyfraith, a dechreuodd weithio yn y Ffatri Arfau Awyrenradio. Peintiai awyrennau gyda phaent gwrth-dân ac archwiliau parasiwtiau. Yn ystod y cyfnod hwn, tynnodd un o ffotograffwyr y fyddin, David Conover lun ohoni ar gyfer erthygl ar gyfer cylchgrawn Yank. Annogodd hi i gysylltu â asiantaeth fodelu ''Blue Book''. Arwyddodd gytundeb â'r asiantaeth a dechreuodd astudio gweithiau [[Jean Harlow]] a [[Lana Turner]]. Dywedwyd wrthi eu bod yn chwilio am fodelau gyda gwallt golau ac felly lliwiodd Marilyn ei gwallt tywyll.
 
Daeth Norma Jeane Dougherty yn un o fodelau mwyaf llwyddiannus ''Blue Book'', gan ymddangos ar ddwsinau o gloriau [[cylchgrawn|cylchgronau]]. Ym [[1946]], daeth Monroe i sylw Ben Lyon, un o reolwyr [[20th Century Fox]], a drefnodd clyweliad ar ei chyfer. Cafodd Lyon ei blesio gyda'i hymroddiad a dywedodd, "Dyma Jean Harlow am yr eildro".<ref>{{eicon en}}Riese and Hitchen, td. 288</ref> Derbyniodd Monroe gytundeb chwe mis gyda chyflog cychwynnol o $125 yr wythnos.
Llinell 51:
=== Datblygiad ei gyrfa ===
 
[[Delwedd:180px-Pb1253.jpg|bawd|dde|Monroe ar glawr cylchgrawn [[Playboy (cylchgrawn)|Playboy]]]]Ym Mawrth 1952, wynebai Monroe [[sgandal]] posib pan ymddangosodd un o'i lluniau noeth ar galendr. Dyfalodd y wasg ynglŷn â phwy oedd y [[model]] di-enw gan nodi ei bod yn edrych yn debyg iawn i Monroe. Wrth i'r stiwdio drafod sut i ymdrin â'r sefyllfa, awgrymodd Monroe y dylai gyfaddef ei bod wedi modeli'n noeth ond y dylid pwysleisio mai'r unig reswm y gwaneth hyn oedd er mwyn gallu talu ei rhent.<ref name="Summers">Summers, td. 58</ref> Rhoddodd gyfweliad lle esboniodd y rhesymau pam y modelodd yn noeth, ac o ganlyniad cafodd rhyw faint o gydymdeimlad wrth y cyhoedd.<ref name="Summers" />
 
Ymddangosodd am y tro cyntaf ar glawr cylchgrawn ''[[Life (cylchgrawn)|Life]]'' yn Ebrill 1952, lle cafodd ei disgrifio fel "The Talk of Hollywood".<ref>Evans, td. 112</ref> Portreadodd yr hanesion am ei phlentyndod hi mewn ffordd gadarnhaol; dangosodd stori flaen rhifyn mis Mai 1952 o'r cylchgrawn ''True Experiences'' lun iachus o Monroe yn gwenu gyda'r pennawd "Do I look happy? I should — for I was a child nobody wanted. A lonely girl with a dream — who awakened to find that dream come true. I am Marilyn Monroe. Read my Cinderella story." <ref>Evans, td. 128-129</ref> Yn ystod y cyfnod hwn hefyd dechreuodd ganlyn y chwaraewr [[pêl-fas]] Joe DiMaggio. Argraffwyd llun o DiMaggio yn ymweld â Monroe yn stiwdios 20th Century Fox studio, mewn [[papur newydd|papurau newydd]] ledled yr Unol Daleithiau, a datblygodd ddiddordeb ym Monroe yn sgîl eu perthynas.<ref>Summers, td. 67</ref>
Llinell 59:
Ystyriai [[Darryl F. Zanuck]] botensial Monroe yn rhywbeth a oedd yn werth ei ddatblygu, a rhoddodd ran iddi yn "Niagara", fel gwraig sy'n cynllwynio i lofruddio'i gŵr, a chwaraewyd gan Joseph Cotten.<ref name="Churchwell, td. 233">Churchwell, td. 233</ref> Tra'n ffilmio, sylwodd colurwr Monroe, Whitey Snyder, ar yr ofn llwyfan a oedd i aros gyda Monroe trwy gydol ei gyrfa, a chafodd ei neilltuo gan y cyfarwyddwr i gysuro a pherswadio Monroe wrth iddi baratoi ar gyfer ei golygfeydd.<ref>Summers, td. 74</ref>
 
[[Delwedd:Monroe sings from the trailer of Niagra.jpg|bawd|dde|Monroe fel Rose yn ''Niagra'']]Soniodd nifer o feirniaid y ffilm am y golygfeydd o natur rywiol <ref name="Churchwell, td. 233"/> ac am yr olygfa sy'n dangos Monroe o'r tu ôl iddi, wrth iddi gerdded tuag at [[Niagara Falls]]. Ar ôl gweld y ffilm, dywed i Constance Bennett ddweud, "There's a broad with her future behind her." <ref>Riese and Hitchens, td. 340</ref> Dywedodd Whitey Snyder hefyd mai tra'n paratoi ar gyfer y ffilm hon y llwyddodd Monroe i greu'r ddelwedd ar gyfer ei hun "the look, and we used that look for several pictures in a row... the look was established".<ref>Churchwell, td. 62</ref>
 
Er bod y ffilm yn lwyddiant, a pherfformiad Monroe yn derbyn adolygiadau cadarnhaol, weithiau byddai ei hymddygiad mewn digwyddiadau i hyrwyddo'r ffilm yn denu sylwadau negyddol. Beirniadawyd ei hymddangosiad yn seremoni gwobrwyo Photoplay mewn ffrog lamé euraidd. Dyfynnwyd [[Joan Crawford]] yn ngholofn papur newydd Louella Parsons yn trafod "fwlgareiddiwch" Monroe a chan ddisgrifio'i hymddygiad fel ymddygiad cwbl anaddas "i actores ac i wraig."<ref>Churchwell, td. 234</ref> Cafodd ei beirniadau hefyd am wisgo ffrog gyda'r gyddflin lawr i'w bogail bron, pan oedd yng Ngorymdaith Miss America ym Medi 1952.[37] Ymddangosodd ffotograff o'r digwyddiad hwn ar glawr ''[[Playboy (cylchgrawn)|Playboy]]'' yn Rhagfyr 1953, gyda llun noeth ohoni (a dynnwyd ym 1949) y tu fewn y cylchgrawn.<ref>Summers, td.59</ref>
Llinell 68:
Ar noson agoriadol y ffilm yn [[Los Angeles]], gwasgodd Monroe a Rusell olion eu dwylo a'u traed i mewn i sment o flaen Theatr Tseiniaidd Grauman. Derbyniodd Monroe adolygiadau clodwiw a gwnaeth y ffilm dros ddwy cymaint ag y costiodd i'w chynhyrchu.<ref>Churchwell, td. 63</ref> Cysylltodd pobl ei pherfformiad o "Diamonds Are a Girl's Best Friend" gyda hi. Dynododd "Gentlemen Prefer Blondes" un o'r ffilmiau cynharaf lle cafodd Monroe ei gwisgo gan William Travilla, cynllunydd a fyddai'n darparu'r gwisgoedd ar ei chyfer mewn wyth o'i ffilmiau, gan gynnwys "Bus Stop, Don't Bother to Knock, How to Marry a Millionaire, River of No Return, There’s No Business Like Show Business, Monkey Business, a The Seven Year Itch<ref>{{eicon en}}http://www.palmspringslife.com/Blogs/The-Life/January-2009/The-Man-Who-Dressed-Marilyn-Monroe-the-legendary-William-Travilla/</ref>.
 
[[Delwedd:Marilyn & Jane.jpg|bawd|dde|Marilyn Monroe a Jane Russell yn rhoi eu llofnodion ac olion eu traed a'u dwylo yn Theatr Tsieiniaidd Grauman, [[1953]]]]Roedd ''How to Marry a Millionaire'' yn gomedi am dair [[model]] a oedd yn cynllwynio i ddenu gŵr cefnog, lle gweithiodd Monroe gyda Betty Grable a Lauren Bacall. Cawsant eu cyfarwyddo gan Jean Negulesco.[43] Dywedodd y sgriptiwr a'r cynhyrchydd Nunnally Johnson mai dyma oedd y ffilm gyntaf lle'r oedd cynulleidfaoedd yn "hoffi Monroe am hi ei hun [a'i bod] wedi dod i gaslgliad craff iawn. Dywedodd mai dyma oedd yr unig ffilm yr oedd wedi bod ynddo lle'r oedd ganddi rhithyn o wyleidd-dra... am ei phrydferthwch ei hun.<ref>Summers, td. 86</ref>
 
Yn ystod y cyfnod hwn, darluniodd y ffilmiau Monroe fel merch gwallt golau twp, a chyfrannodd hyn at ei phoblogrwydd. Ym 1953 a 1954, cafodd ei rhestru fel un o'r ser a oedd yn gwneud fwyaf o arian yn seiliedig ar yr arian a wnaed mewn sinemau dros y flwyddyn flaenorol.<ref>{{eicon en}}[http://www.quigleypublishing.com/MPalmanac/Top10/Top10_lists.html The 2006 Motion Picture Almanac, Top Ten Money Making Stars"]. Quigley Publishing Company. Adalwyd 2008-08-25</ref> Ym 1953 a 1954, rhestrwyd Monroe yn Arolwg Quigley o'r Deg Seren a wnaeth Fwyaf o Arain" yn flynyddol, a oedd yn caslgu ynghyd pleidleisiau wrth arddangoswyr ffilm yr Unol Daleithiau am y ser a oedd wedi gwneud fwyaf o arian yn eu sinemau dros y flwyddyn flaenorol.<ref>{{eicon en}} [http://www.quigleypublishing.com/MPalmanac/Top10/Top10_lists.html "The 2006 Motion Picture Almanac, Top Ten Money Making Stars".] Quigley Publishing Company. Adalwyd ar 2008-08-25</ref>