Pasiphaë: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|[[Daedalus yn dangos y fuwch bren i Pasiphaë. Ffresco o'r Casa dei Vetti, Pompeii, Ganrif 1af OC]] Gwraig [[Minos…
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Gwraig [[Minos]], brenin [[Creta]] ym [[mytholeg Roeg]] oedd '''Pasiphaë'''. Roedd hi'n ferch i [[Helios]], duw'r Haul, a [[Perseis]] ac yn chwaer i [[Aetes]] a [[Circe]].
 
Meddianwyd hi gan chwant i gael cyfathrach rhywiol gyda [[tarw|tharw]] gwyn ysblennydd a roddwyd i'w gŵr Minos gan [[Poseidon]], duw'r môr. Roedd y tarw yn rhodd mewn ymateb i ddymuniad Minos i gael tarw i'w aberthu iddo, ond penderfynodd Minos ei gadw a'i ychwanegu at ei deirw ei hun: mewn dial arno parodd Poseidon i Pasiphaë ymserchu yn y tarw. Yn ôl y chwedl, lluniodd [[Daedalus]] fuwch bren iddi gyda lle iddi orwedd y tu mewn iddi a fyddai'n ei galluogi i gael rhyw gyda'r tarw. Beichiogwyd hi a rhoddodd enedigaeth i'r [[Minotaur]], anghenfil hanner dyn hanner tarw a laddwyd yn nes ymlaen yn ei labrinth gan yr arwr Groegaidd [[Theseus]].
 
Roedd plant Pasiphae gan Minos yn cynnwys [[Ariadne]], [[Androgeos]], [[Glaucus]], [[Catreus]] a [[Phaedra]].