Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ysgol Friars, Bangor"

Lleihawyd o 12 beit ,  2 flynedd yn ôl
Cyffredinol using AWB
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 13eg ganrif13g using AWB)
(Cyffredinol using AWB)
===Sefydliad 1557===
Sefydlwyd yr ysgol gan Geoffrey Glyn, doethur yn y [[cyfraith|gyfraith]] oedd wedi ei fagu ar [[Ynys Môn]], ac ar ôl addysg dda, wedi dilyn gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith yn [[Llundain]].
[[Delwedd:Friars-speed1610.jpg|bawd|dde|200px|Darlun o'r ysgol ar fap John Speed o 1610, yr unig ddelwedd o'r ysgol wreiddiol i oroesi]]
Roedd tŷ'r [[Brodyr Duon]] wedi bodoli ym Mangor ers y [[13g]], yn dilyn athrawiaeth [[Dominic]], ond yn oes [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymu’r mynachlogydd]], daeth ei gyfnod i ben ym [[1538]]. Roedd Geoffrey Glyn wedi prynu’r safle gyda’r bwriad o sefydlu ysgol ramadeg yno. Yn ei ewyllys dyddiedig [[8 Gorffennaf]] [[1557]], gadawodd yr eiddo ynghyd ag eiddo cysylltiedig er mwyn ffurfio cronfa gwaddol i gynnal yr ysgol, er mwyn sefydlu’r ysgol. Gadawodd yr eiddo hwn i'w frawd, [[William Glyn]], [[Esgob Bangor]] a [[Maurice Griffith]], Esgob Rochester, gyda'r bwraid y buasent hwythau yn sefydlu'r ysgol yn ôl ei ewyllys. Ond bu farw'r ddau ohonynt y flwyddyn dilynol, gan drosglwyddo'r dymuniad yn eu tro i William Garrard, [[William Petre]] a Simon Lowe.
 
===Yr ail adeilad, 1789===
 
[[Delwedd:Friars-barber&lewis1789.jpg|bawd|dde|200px|Adeilad Ysgol Friars o 1789 i 1900]]
Dan nawdd [[John Warren]], Esgob Bangor – cymeriad lliwgar a dadleuol – penderfynwyd trosglwyddo’r ysgol i safle gwell, ychydig ymhellach o’r afon. Cyllidwyd hyn yn rhannol trwy gau’r ysgol ym [[1786]], a chronni’r incwm blynyddol er mwyn cael digon i adeiladu ysgol newydd. Adeiladwyd yr ysgol newydd am £2,076 12s 5½d, ac fe'i hagorwyd ym [[1789]] ar safle ychydig yn nes at y Stryd Fawr, yn agos at y Ffordd Glynne presennol.
 
===Y drydydd adeilad, 1900===
 
[[Delwedd:Friars-ffriddoedd.jpg|bawd|dde|200px|Adeilad Ysgol Friars ar safle Ffriddoedd, ysgol 1900-1999]]
Gyda chyfraniadau gan Gyngor Sir Gaernarfon, gwerthiant yr hen safle yng ngwaelod y ddinas ac apêl gyhoeddus am gyfraniadau, adeiladwyd ysgol newydd ar safle Ffriddoedd am gost o £11,600. Dyluniwyd yr adeilad gan benseiri Douglas & Minishull, ac fe’i adeiladwyd o [[calchfaen|galchfaen]] a [[tywodfaen|thywodfaen]] gan Mri. James Hamilton a’i Fab. Gosodwyd y seiliau gan [[Watkin Herbert Williams]], Esgob Bangor ar [[12 Ebrill]] [[1899]] ac fe agorwyd yr adeilad newydd ym mis Rhagfyr [[1900]].
 
57,360

golygiad