Llyn Syfaddan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
tacluso, cat |
||
Llinell 1:
[[Image:Llangorse crannog.jpg|bawd|200px|de|Crannog Llyn Syfaddan.]]
'''Llyn Syfaddan''' neu '''Llyn Syfaddon''' yw [[llyn]] naturiol mwyaf de Cymru, gydag arwynebedd o 153 ha. (327 acer), tua milltir ar ei hyd a phum milltir o gwmpas y glannau. Saif ychydig i'r de-ddwyrain o [[Aberhonddu]], [[Powys]], ym [[Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog|Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog]] a gerllaw pentref [[Llangors]], sy'n rhoi'r enw [[Saesneg]]
Mae'r llyn yn nodedig am gynnig pysgota da am nifer o rywogaethau o bysgod, ond yn arbennig [[Penhwyad]]. Yma hefyd ceir [[crannog]], sef sefydliad wedi ei adeiladu ar ynys artiffisial mewn llyn. Y crannog yn Llyn Syfaddan yw'r unig esiampl y gwyddir amdano yng Nghymru, er eu bod yn gyffredin yn [[Iwerddon]] a'r [[Alban]]. Credir fod yr esiampl yma yn dyddio o ddiwedd y [[9fed ganrif]]. Roedd teulu brenhinol [[Brycheiniog]] o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog yma. Yn [[916]] ceir cofnod am fyddin [[Mercia]] yn dinistrio ''Brecenanmere'', crannog Llyn Syfaddan, yn ôl pob tebyg.
==Llên gwerin==
Adroddir chwedl am y llyn gan [[Gerallt Gymro]], a ddywed fod traddodiad y byddai Adar Syfaddan yn canu pan fyddai gwir dywysog [[Deheubarth]] yn gorchymyn iddynt. Yn ôl Gerallt, roedd [[Gruffudd ap Rhys]] yn cerdded ar lan y llyn yng nghwmni dau arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]], yn y cyfnod pan oedd y Normaniaid wedi cymeryd meddiant o bron y cyfan o Ddeheubarth. Gorchmynodd y ddau Norman i'r adar ganu heb lwyddiant, ond ar orchymyn Gruffudd codasant i'r awyr a chanu.
Llinell 14:
[[Categori:Llynnoedd Powys|Syfaddan]]
▲[[Categori:Powys]]
[[en:Llangorse Lake]]
|