Ostraciaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|Ostrakon yn dwyn enw [[Themistocles, mab Neocles]] '''Ostraciaeth''' oedd y drefn yn Athen ddemocrataidd yn y [[5ed g…
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:21, 6 Mawrth 2009

[[DelweddOstrakon_with_the_name_of_Themistokles.JPG|thumb|Ostrakon yn dwyn enw Themistocles, mab Neocles]]

Ostraciaeth oedd y drefn yn Athen ddemocrataidd yn y 5ed ganrif CC o gynnal pleidlais i alltudio un neu fwy o arweinwyr y ddinas-wladwriaeth am gyfnod o ddeng mlynedd.

Ar ddiwrnod arbennig, byddai pob etholwr yn Athen yn dod i'r Agora ac yn ysgrifennu enw'r person y dymunai ef ei alltudio ar ddarn toredig o grochenewaith (ostrakon). Byddai unrhyw berson oedd yn cael mwy na 6,000 o bleidleisiau yn cael ei alltudio. Ni fyddai'n colli ei feddiannau, ac nid oedd yr ostraciaeth yn cael ei hystyried fel cosb; yn hytrach roedd yn ddull o ddatrys dadleuon gwleidyddol. Byddai pob arweinydd gwleidyddol yn Athen yn ceisio sicrhau fod ei wrthwynebwyr yn cael eu hostraceiddio. Er enghraifft, yn y cyfnod cyn ymosodiad Xerxes I, brenin Ymerodraeth Persia, ar Athen yn 480 CC, bu dadl sut y dylid amddiffyn y ddinas, trwy ganolbwyntio ar y llynges neu ar y fyddin. Llwyddodd Themistocles, oedd o blaid cryfhau'r llyngres, i sicrhau ostraceiddio Aristeides, oedd o blaid cryfhau'r fyddin. Daeth yn arfer i ben tua 415 CC.

Cysylltiad allanol

Rhestr o bobl a ddioddefodd ostraciaeth