Ostraciaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ar ddiwrnod arbennig, byddai pob etholwr yn Athen yn dod i'r Agora ac yn ysgrifennu enw'r person y dymunai ef ei alltudio ar ddarn toredig o grochenewaith (''ostrakon''). Byddai unrhyw berson oedd yn cael mwy na 6,000 o bleidleisiau yn cael ei alltudio. Ni fyddai'n colli ei feddiannau, ac nid oedd yr ostraciaeth yn cael ei hystyried fel cosb; yn hytrach roedd yn ddull o ddatrys dadleuon gwleidyddol. Byddai pob arweinydd gwleidyddol yn Athen yn ceisio sicrhau fod ei wrthwynebwyr yn cael eu hostraceiddio. Er enghraifft, yn y cyfnod cyn ymosodiad [[Xerxes I]], brenin [[Ymerodraeth Persia]], ar Athen yn [[480 CC]], bu dadl sut y dylid amddiffyn y ddinas, trwy ganolbwyntio ar y llynges neu ar y fyddin. Llwyddodd [[Themistocles]], oedd o blaid cryfhau'r llyngres, i sicrhau ostraceiddio [[Aristeides]], oedd o blaid cryfhau'r fyddin.
 
Yn [[442 CC]], alltudiwyd y gwleidydd [[Thucydides (gwleidydd)|Thucydides]] o Athen am ddeng mlyned wedi i'w ymgais i ddisodli [[Pericles fethu]] fethu. Daeth yr arfer i ben tua [[415 CC]].
 
== Cysylltiad allanol ==