Tôn (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Tôn''' yw'r defnydd o draw mewn [[iaith]] i wahaniaethu ystyr gramadegol neu eiriol, hynny yw, i wahaniaethu rhwng neu i ffurfdroi geiriau. Mae pob iaith yn defndyddio [[traw]] i fynegi gwybodaeth bara-ieithyddol fel emosiwn, ac i gyfleu pwyslais a chyferbyniad. Ond nid yw pob iaith yn defnyddio tôn i wahaniaethu geiriau neu eu [[ffurfdro|ffurfdroadau]]. Fe elwir [[ffonem|ffonemau]] tonyddol o'r math hwn yn donemau.
 
Mae ychydig dros 50% o ieithoedd y byd yn donyddol ond nid yw'r rhan fwyaf o [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] yn donyddol, sef rhai o'r ieithoedd a siaredir y fwyaf yn y byd.
 
==Ieithoedd Tonyddol==
Mae ychydig dros 50% o ieithoedd y byd yn donyddol ond nid yw'r rhan fwyaf o'r [[ieithoedd Indo-Ewropeaidd]] yn donyddol, sef rhai o'r ieithoedd a siaredir y fwyaf yn y byd.
 
Yn [[Tsieinëeg|Nhsieinëeg]], fe wahaniaethir y rhan fwyaf o donau gan eu siâp (tro). Mae'r rhan fwyaf o'r sillafau yn cario tôn eu hun ac fe wahaniaethir rhwng nifer o eirau drwy dôn yn unig. Yn ogystal, mae tôn yn dueddol o chwarae dim rôl gramadegol (ac eithrio ieithoedd Jin Shanxi). Yn nifer o'r ieithoedd tonyddol Affricannaidd gan gynnwys y rhan fwyaf o'r [[ieithoedd Bantw]], fe wahaniaethir tonau gan eu lefel berthynol; mae geiriau'n hirach, mae yna lai o [[parau lleiaf|barau lleiaf tonyddol]], ac fe ellir cario tôn gan y gair i gyd yn hytrach na tôn gwahanol ar bob sillaf. Yn aml fe gyflëir gwybodaeth ramadegol, fel y presennol yn erbyn y gorffennol neu "fi" yn erbyn "chi", drwy dôn yn unig.
 
Mae nifer o ieithoedd yn defnyddio tôn mewn ffordd fwy cyfyngedig. Mae gan [[Somali]] er enghraifft ond un tôn i bob gair. Yn [[Japaneg]] mae gan lai na hanner y geiriau gostyngiad yn y traw; mae geiriau yn cyferbynnu yn ôl y sillaf y mae'r gostyngiad yn dilyn. Weithiau fe elwir systemau cyfyngedig o'r math hwn yn [[accen traw]] er nad oes gan y gair hwn ddiffiniad cydlynol.
 
==Tôn fel nodwedd gwahaniaethu==